From: Megan Tomos <[log in to unmask]> Date: 30 August 2014 17:46:42 BST To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Subject:Re: Angen cerdd
Y Ddwyryd. Mae dwy ryd dros yr Alwen yn yr ardal yma. Un ar gyfer fy nghartref, Plas yn ddôl, a'r llall yn nes at y goleuadau sy'n rheoli llif y traffig ar yr A5 a'r traffig i/o gyfeiriad y Bala.
Gwerthodd stad Rug Y Ddwyryd sef tŷ mawr ar y gyffordd hon ac ar y tro am y ffordd gefn i Gynwyd, yn y chwedegau. Galwodd y perchnogion newydd y lle yn The Druids neu The Druid. Roedd Y Ddwyryd yn ffarm yn y nyddiau i. Ond roedd yn enw i gyfeirio at yr ardal yne yn gyffredinol. Roedd yne felin,gweithdy crydd,swyddfa bost a garej. Felly, y Ddwyryd ddylid ei ddweud. Mae Tŷ Mawr ryw hanner milltir oddi yno a byddwn i'n cysylltu Tŷ Mawr â Glan'rafon yn hytrach na'r Ddwyryd. Byddai plant y Ddwyryd yn mynd i Ysgol Corwen ond plant Tŷ Mawr i ysgol Glanrafon. Ydi hynne'n ddigon??!!
Ara' bach, Megan. Diolch am fod mor awyddus i helpu, ond, fel
'rwy'n dweud, mae copi gan y cwsmer, ac mae newydd gyrraedd!
Gyda llaw, mae gennyf nodyn o rywbeth y dywedodd Bruce y dylwn ofyn
i ti amdano. Dyma'r frawddeg:
"
There are hints of a dais canopy at
Tŷ-mawr (Druid),
1539–69"
Beth ddylwn i ei ddefnyddio ar gyfer "Druid" yma - dim hyd yn oed
yn siwr a oes 'na fwy nag un Druid, a heb gael cyfle i ymchwilio
eto.