CyMAL Cwrs rhad ac am ddim
Trin a Thrafod Gwrthrychau a’u Symud
Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa
01 Tachwedd 2013
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru.
Nod
Nod y cwrs hwn yw dysgu sut i drin a thrafod gwrthrychau sy’n perthyn i amgueddfa mewn ffordd ofalus a diogel. Bydd hyn yn golygu archwilio’r gwrthrychau a nodi unrhyw wendid, dysgu sut i dderbyn casgliadau a’u symud o fewn yr amgueddfa.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer cyflogeion amgueddfeydd a gwirfoddolwyr sy’n trin a thrafod gwrthrychau mewn amgueddfeydd.
Erbyn diwedd y cwrs, dylai unigolion allu:
- nodi a thrafod ffactorau sy’n peri niwed i gasgliadau
- adnabod arwyddion niwed yn eitemau amgueddfeydd
- nodi mesurau sylfaenol i warchod casgliadau sy’n cael eu storio a’u symud
- cymryd camau i warchod eitemau amgueddfeydd wrth eu trin a’u trafod
- adnabod a gallu disgrifio deunyddiau pecynnu sylfaenol
- gallu cyflawni tasgau cynnal a chadw sylfaenol o dan oruchwyliaeth
- gallu symud eitemau amgueddfeydd yn ddiogel gan ddilyn gweithdrefnau a pholisi* yr amgueddfa
- adnabod sefyllfa lle mae angen mwy o help
- cymryd mesurau angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill wrth drin a thrafod casgliadau a’u pecynnu
*os oes polisi a gweithdrefnau yn bod – anfonwch gopi o’ch polisi os oes gennych un.
Rhaid ichi ddilyn y cwrs hwn os ydych am ddilyn y cwrs Cynnal a Chadw ar 19 Tachwedd 2013, oni bai eich bod wedi’i ddilyn o’r blaen.
Hyfforddwr: Jane Henderson, BSc, MSc, PACR, FIIC, Uwch-Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Jane wedi bod yn gweithio ac yn astudio ym maes cadwraeth a gofalu am gasgliadau yng Nghymru ers 1984. Bellach, mae Jane yn dysgu cwrs BSc Cadwraeth ac MSc Gofalu am Gasgliadau ac Arferion Cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Jane yw’r cynrychiolydd stiwardiaeth
ar Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a’r Ymddiriedolwr sy’n cynrychioli Cymru ar ICON, y Sefydliad Cadwraeth.
Cofrestru
Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd
i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno,
ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.
Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]
neu ffoniwch 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
Seaneen McGrogan
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Welsh Government