MANNAU SYDD AR GAEL
 
CyMAL Cwrs rhad ac am ddim
 
 
Asesu Cyflwr Casgliadau
Archifau Conwy
3 Medi 2014
 
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sy’n gweithio gyda chasgliadau, ac sy’n gyfrifol am gynnal archwiliadau gweledol ohonynt gan benderfynu ar y camau priodol i’w cymryd yn seiliedig ar eu canfyddiadau.
 
Nod
Nod yr hyfforddiant yw rhoi cyfle i’r sawl sy’n cymryd rhan ddysgu am rai o’r prif gysyniadau angenrheidiol sy’n sail i archwilio ac asesu arteffactau cludadwy. 
 
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn:
 
Dulliau Hyfforddi
Cyflwyniad, sy’n cael ei ddilyn gan ymarferion a gwaith mewn grwpiau
 
Paratoi
Nid oes angen unrhyw baratoi penodol; bydd gwrthrychau ar gael i’r cynrychiolwyr asesu eu cyflwr yn ystod sesiwn ymarferol.
 
Hyfforddwr
Sarah Paul, Cynghorydd Casgliadau, CyMAL
 
Cofrestru
Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich
 
 
cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno, ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.
 
Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.
 
https://www.eventbrite.co.uk/e/collections-condition-assessment-03-september-2014-03-medi-2014-registration-11802777425
 
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
 
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
 
 
Seaneen McGrogan
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Welsh Government
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR 
Ffon/Tel 0300 062 2261.
www.cymru.gov.uk/cymal
www.wales.gov.uk/cymal
 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.