MANNAU SYDD AR GAEL CyMAL Cwrs rhad ac am ddim Asesu Cyflwr Casgliadau Archifau Conwy 3 Medi 2014 Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae'n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda chasgliadau, ac sy'n gyfrifol am gynnal archwiliadau gweledol ohonynt gan benderfynu ar y camau priodol i'w cymryd yn seiliedig ar eu canfyddiadau. Nod Nod yr hyfforddiant yw rhoi cyfle i'r sawl sy'n cymryd rhan ddysgu am rai o'r prif gysyniadau angenrheidiol sy'n sail i archwilio ac asesu arteffactau cludadwy. Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy'n dilyn y cwrs yn: * Gallu dadansoddi arteffactau, gan nodi'r wybodaeth a'r canfyddiadau yn glir er mwyn eu cyfleu i eraill * Deall y prif resymau pam mae arteffactau'n dirywio * Deall pa mor bwysig yw adeiladwaith/cyfansoddiad gwrthrych, a sut y gallai hwnnw effeithio ar y modd y bydd yn dirywio ac ar y gofal y bydd angen ei roi iddo * Deall y dulliau cofnodi sylfaenol a ddefnyddir wrth asesu cyflwr * Deall sut mae asesiadau o gyflwr yn llywio'r cynlluniau a weithredir i ofalu am gasgliadau mewn modd sy'n rhoi'r sylw priodol i anghenion pob eitem yn y casgliad. Dulliau Hyfforddi Cyflwyniad, sy'n cael ei ddilyn gan ymarferion a gwaith mewn grwpiau Paratoi Nid oes angen unrhyw baratoi penodol; bydd gwrthrychau ar gael i'r cynrychiolwyr asesu eu cyflwr yn ystod sesiwn ymarferol. Hyfforddwr Sarah Paul, Cynghorydd Casgliadau, CyMAL Cofrestru Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud 'Rydych chi'n mynd i ......" ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy'n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae'n bwysig cofio nad yw'r e-bost hwnnw'n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae'n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno, ac ni allwch fod yn sicr o'ch lle nes ichi gael gwahoddiad i'r cwrs oddi wrth CyMAL. Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod. https://www.eventbrite.co.uk/e/collections-condition-assessment-03-september-2014-03-medi-2014-registration-11802777425 Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle. Seaneen McGrogan Llywodraeth Cymru Welsh Government Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu Collections, Standards and Workforce Development Assistant CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales Welsh Government Rhodfa Padarn Llanbadarn Fawr Aberystwyth Ceredigion SY23 3UR Ffon/Tel 0300 062 2261. www.cymru.gov.uk/cymal<http://www.cymru.gov.uk/cymal> www.wales.gov.uk/cymal<http://www.wales.gov.uk/cymal>