"Gwneud theatr"? Beth, adeiladu un?


Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> ar ran anna gruffydd <[log in to unmask]>
Anfonwyd: 04 Gorffennaf 2014 11:25
At: [log in to unmask]
Pwnc: theatre making
 
Cyd-destun:- Our Theatre Academy will work with Tin Shed Theatre Co. to produce high quality pieces of theatre and gain experience in all aspects of theatre making.

Dwi ddim yn lecio 'gwneud theatr', nac ychwaith yn rhy hoff o 'creu theatr'. Ar gynsail music-making = cerddora, allwn i fathu'r ferf 'theatra'? Mi wn bod 'cyngherdda' etc yn golygu 'mynd i' ond yn y cyd-destun yma mae'n amlwg mai gwneud/creu maen nhw, nid dim ond mynd i'r adeilad i weld sioe.

Diolch

Anna