Print

Print


Byddai'n well holi rhywun sy'n gwbl gyfarwydd â'r Wyddfa a'i chyffiniau. Byddai enw Cymraeg ar bob nodwedd o bwys neu ddiddordeb i fugeiliaid a mwyngloddwyr: tybed a allai Canolfan Tan-y-bwlch neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eich cynorthwyo?


Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>
Anfonwyd: 28 Gorffennaf 2014 19:47
At: [log in to unmask]
Pwnc: Rhannau o'r Wyddfa
 
Dwi wrthi'n cyfieithu erthygl am ddringo ar yr Wyddfa yn ystod y gaeaf. Cyfeirir at 'Trinity Face on Clogwyn y Garnedd', 'the Narrows' (hefyd ar Glogwyn y Garnedd) a 'Slanting Gully' - dyma'r dyfyniad - 'Slanting Gully has the distinction of a cave halfway up where King Arthur’s knights lie fast asleep awaiting a summons in the hour of Britain’s greatest need'.

Dwi'n ymwybodol fod llawer o enwau (Saesneg) am greigiau a rhigolau yn rhai sydd wedi cael eu dyfeisio gan ddringwyr. Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth yw enwau Cymraeg gwreiddiol y llecynnau hyn? Hefyd, os oes enw Saesneg ar rigol neu glogwyn ond dim enw Cymraeg (ac mae hynny'n gallu digwydd), sut ddylwn i gyfeirio ato yn y cyfieithiad? Defnyddio'r enw Saesneg?