Dwi wrthi'n cyfieithu erthygl am ddringo ar yr Wyddfa yn ystod y gaeaf. Cyfeirir at 'Trinity Face on Clogwyn y Garnedd', 'the Narrows' (hefyd ar Glogwyn y Garnedd) a 'Slanting Gully' - dyma'r dyfyniad - 'Slanting Gully has the distinction of a cave halfway up where King Arthur’s knights lie fast asleep awaiting a summons in the hour of Britain’s greatest need'.

Dwi'n ymwybodol fod llawer o enwau (Saesneg) am greigiau a rhigolau yn rhai sydd wedi cael eu dyfeisio gan ddringwyr. Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth yw enwau Cymraeg gwreiddiol y llecynnau hyn? Hefyd, os oes enw Saesneg ar rigol neu glogwyn ond dim enw Cymraeg (ac mae hynny'n gallu digwydd), sut ddylwn i gyfeirio ato yn y cyfieithiad? Defnyddio'r enw Saesneg?