Diolch yn fawr. Megan ----Original message---- From : [log in to unmask] Date : 25/07/2014 - 14:05 (UTC) To : [log in to unmask] Subject : Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein yn y Steddfod Mae'n siwr bod y rhan fwyaf ohonoch wedi gweld GPC Ar Lein erbyn hyn a lansiwyd bron i fis yn ôl yn y Senedd. Ers hynny, mae pobl wedi chwilio'r Geiriadur dros 177,000 o weithiau. Os hoffech ddysgu mwy am yr 'ap' (yn enwedig sut i'w chwilio'n fwy effeithiol), dewch i babell Prifysgol Cymru ar y maes (LL04: gyferbyn â'r Pafiliwm a'r Babell Lên) ar brynhawn dydd Gwener erbyn tri o'r gloch. Bydd arddangosfa o deithi'r rhaglen a chyfle i'w thrio ar nifer o liniaduron. Cewch gyfle hefyd i glywed am ein cynlluniau i wella'r adnodd yn y dyfodol - a chyfle i ddylanwadu ar ein cynlluniau: hoffem glywed eich syniadau chi. Gan obeithio'ch gweld yn Llanelli, Cofion, Andrew -- Andrew Hawke | Golygydd Rheolaethol | Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH Andrew Hawke | Managing Editor| University of Wales Dictionary of the Welsh Language, University of Wales Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, UK ff./tel. +44 (0)1970 631012 | ffacs/fax: +44 (0)1970 631039 | [log in to unmask] | gwe/web: http://www.geiriadur.ac.uk Gair y Dydd (Trydar/Twitter): https://twitter.com/geiriadur | Facebook: https://www.facebook.com/geiriadur.prifysgolcymru Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1146516 Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol Cymru / This message does not necessarily reflect the opinion of the University of Wales