Print

Print


Beth ydych chi'n ei wneud ag enwau strydoedd?
Rwy'n ceisio cadw at y ffurfiau yng Nghyrchwr Cyfeiriadau y Swyddfa Bost neu ddefnyddio Google Streetview ond weithiau, rwy'n teimlo bod angen defnyddio ffurf Gymraeg hyd yn oed os nad yw'n ymddangos yno e.e. Malpas Road ond wedyn, os ydych chi'n cyfieithu enwau fel hyn, sy'n gweithio fel disgrifiad yn ogystal ag enw, beth am enwau fel "Walford Street", "Goodrich Lane" a "Goodrich Crescent"?
Rwy'n gwybod y byddwn i'n edrych yn hurt pe bai rhywun yn defnyddio "Stryd Davies" am "Davies Street" ym Mhencader!

Diolch

Siān