Print

Print


Wrth gwrs gallwch fenthyg car gan ffrind neu berthynas, ond nid "courtesy car" fyddai hwnnw.

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Felicity Roberts [afr]
Sent: 31 July 2014 15:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Courtesy vehicle

Mae car benthyg yn dda hefyd
Felicity

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfri Dot
Sent: 31 July 2014 15:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Courtesy vehicle

Beth am gar benthyg am ddim? Car benthyg faswn i'n ei ddweud. (Rhaid cyfaddef fod car dros dro yn gwneud imi holi tybed beth yw'r car pan nad yw'n bod yn gar!!)

> On 31 Gorff 2014, at 15:20, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
> 
> Byddai'n iawn, ond byddai'n rhaid ychwanegu "am ddim".
> 
> "Car / Cerbyd dros dro am ddim".
> 
> Yr elfen "am ddim" yw prif ergyd y gair "courtesy".
> 
> Geiriadur Rhydychen: "Courtesy 1.2 (as modifier) (Especially of transport) supplied free of charge to people who are already paying for another service: ‘a courtesy car’"
> 
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of 
> Geraint Jones
> Sent: 31 July 2014 15:15
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Courtesy vehicle
> 
>> Gellid defnyddio “car / cerbyd cyfnewid”, efallai, ond ni fyddai’n 
>> cyfleu’r ffaith mae dros dro y ceir y cerbyd, a hynny heb dalu amdano.
> 
> Pam nad "car dros dro" felly?  Ym mha gyd-destun fyddai hwnnw'n llai na digon?
> 
> Mae'r ysfa i gael term yn Gymraeg am bob un term Saesneg, a hwnnw gyda pob un mymryn o arlliw o ystyr y Saesneg, yn sicr o arwain at gyfieithu o'r Saesneg i Saesneg-mewn-geiriau-Cymraeg.