Mae hen bennill: 'Hawdd yw dwedyd, "Dacw'r Wyddfa," — Ni eir trosti ond yn ara'; Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur, Beri i'r afiach gymryd cysur'. Beth am "Hawdd yw dwedyd 'Dacw Cilimanjaro'"? - (os hawdd ydyw! "Dacw'r mynydd", efallai) ond ni fyddai'n gwneud y tro oni bai bod llawer o bobl yn gyfarwydd a'r gwreiddiol. Ann On 31/07/2014 14:00, Emily Hammett wrote: > Un ysgafn i chi: > > Dyma deitl datganiad i'r wasg sy'n sôn am daith codi arian i Kilimanjaro. > > Y cynnig gorau sy gen i yw: Draw Dros y Mynydd (Cowbois Rhos Botwnnog), ond tybed a oes cân/ymadrodd fyddai'n fwy cyfarwydd i bobl? > > Diolch! > Emily > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2014.0.4716 / Virus Database: 3986/7954 - Release Date: 07/31/14 > > >