Cytuno gydag Anna, byddwn i (o’r de) byth yn defnyddio ‘gynnon ni’ ar lafar nac ar bapur ac mae ‘gennych’ yn teimlo’n fwy cyfforddus na ganddoch. Melanie From: anna gruffydd Sent: Monday, June 02, 2014 10:29 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi Dibynnu ar y cywair. Mae 'gynnon ni' yn bur anffurfiol ac yn bendant ogleddol. Dwi'm yn meddwl bod 'ganddoch' yn dderbyniol, ond mi fasa 'gynnoch' yn dderbyniol lle mae 'gynnon' yn dderbyniol. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2014-06-02 11:25 GMT+02:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>: Bore da! Ydych chi'n weddol gyfforddus yn defnyddio : 'gynnon ni' yn lle 'gennym' a 'ganddoch chi' yn lle 'gennych' ? Maen nhw'n dderbyniol, on'd ydyn nhw? Diolch, Dafydd