Onid anifail o deulu'r wildebeest yw 'gnu'? 

Sent from my iPhone

On 30 Jun 2014, at 14:19, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

“Cot gnu” oedd y cynnig pan drafodwyd hyn yn yr archifau yn Nhachwedd 2003.
 
Ailddyfeisio’r olwyn ydan ni fan hyn?  <wlEmoticon-winkingsmile[1].png>
 
Geraint
 
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Wyn Gruffydd
Sent: Monday, June 30, 2014 2:06 PM
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Subject: Re: Fleece
 
Tase yna siop ddillad neu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn arddangos label Cneufyn neu Cneifyn yn lle Fleece, mi gai'r gair ei fabwysiadu mewn dim o dro.

Sent from my iPhone

On 30 Jun 2014, at 13:43, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:

Gwelais sawl enghraifft (18) drwy gwgl ac felly rwy'n cymryd bod yr amrywiaeth yn fyw ar lafar - rwy'n ei hoffi'n fwy na 'cnufyn' a dweud y gwir.

m


2014-06-30 13:36 GMT+01:00 Wyn Gruffydd <[log in to unmask]>:
Hwyrach taw 'cnufyn' yw'r sillafiad cywir. Cof plentyn sy gen mae arna i ofn, am ddiwrnodau cneifio yng ngogledd Ceredigion ac ar lafar gwlad mae'n siwr fod 'cnufyn' wedi dod yn 'gneufyn'.

Sent from my iPad

On 30 Jun 2014, at 13:31, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:

Diddorol, dw i ddim yn dod o gefndir ffermio felly mae'r terminoleg yn ddirgelwch imi, ond dw i erioed wedi clywed 'cneifyn' o'r blaen ac nid yw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, er bod Cnufyn yn o dan Cnu. Byddaf i'n cofio'r gair yma.

Muiris


2014-06-30 11:24 GMT+01:00 Wyn Gruffydd <[log in to unmask]>:
'Cneifyn' - tase fe'n dod yn syth o'r ddafad. Dyw e ddim yn wahanol i'r Saesneg yn hynny o beth. O'i ddefnyddio yn gyson fe gaiff y gair ei dderbyn .

Sent from my iPhone

> On 30 Jun 2014, at 11:19, Dafydd Timothy <[log in to unmask]> wrote:
>
> Fleece - sef y cotiau amryddawn fyddwn i i gyd yn eu gwisgo.
> 'Fflîs?' ...er ei fod wedyn yn sowndio'n fwy tebyg i'r gair Saesneg am chwain...a does neb isho'r rheini ar/yn dy fflîs!
>
> Diolch,
> Dafydd
 
 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3986/7769 - Release Date: 06/30/14