Onid anifail o deulu'r wildebeest yw 'gnu'? Sent from my iPhone > On 30 Jun 2014, at 14:19, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote: > > “Cot gnu” oedd y cynnig pan drafodwyd hyn yn yr archifau yn Nhachwedd 2003. > > Ailddyfeisio’r olwyn ydan ni fan hyn? <wlEmoticon-winkingsmile[1].png> > > Geraint > > From: Wyn Gruffydd > Sent: Monday, June 30, 2014 2:06 PM > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Fleece > > Tase yna siop ddillad neu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn arddangos label Cneufyn neu Cneifyn yn lle Fleece, mi gai'r gair ei fabwysiadu mewn dim o dro. > > Sent from my iPhone > >> On 30 Jun 2014, at 13:43, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote: >> >> Gwelais sawl enghraifft (18) drwy gwgl ac felly rwy'n cymryd bod yr amrywiaeth yn fyw ar lafar - rwy'n ei hoffi'n fwy na 'cnufyn' a dweud y gwir. >> >> m >> >> >> 2014-06-30 13:36 GMT+01:00 Wyn Gruffydd <[log in to unmask]>: >>> Hwyrach taw 'cnufyn' yw'r sillafiad cywir. Cof plentyn sy gen mae arna i ofn, am ddiwrnodau cneifio yng ngogledd Ceredigion ac ar lafar gwlad mae'n siwr fod 'cnufyn' wedi dod yn 'gneufyn'. >>> >>> Sent from my iPad >>> >>>> On 30 Jun 2014, at 13:31, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote: >>>> >>>> Diddorol, dw i ddim yn dod o gefndir ffermio felly mae'r terminoleg yn ddirgelwch imi, ond dw i erioed wedi clywed 'cneifyn' o'r blaen ac nid yw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, er bod Cnufyn yn o dan Cnu. Byddaf i'n cofio'r gair yma. >>>> >>>> Muiris >>>> >>>> >>>> 2014-06-30 11:24 GMT+01:00 Wyn Gruffydd <[log in to unmask]>: >>>>> 'Cneifyn' - tase fe'n dod yn syth o'r ddafad. Dyw e ddim yn wahanol i'r Saesneg yn hynny o beth. O'i ddefnyddio yn gyson fe gaiff y gair ei dderbyn . >>>>> >>>>> Sent from my iPhone >>>>> >>>>> > On 30 Jun 2014, at 11:19, Dafydd Timothy <[log in to unmask]> wrote: >>>>> > >>>>> > Fleece - sef y cotiau amryddawn fyddwn i i gyd yn eu gwisgo. >>>>> > 'Fflîs?' ...er ei fod wedyn yn sowndio'n fwy tebyg i'r gair Saesneg am chwain...a does neb isho'r rheini ar/yn dy fflîs! >>>>> > >>>>> > Diolch, >>>>> > Dafydd > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3986/7769 - Release Date: 06/30/14