Mae trafodaeth hir o dan "ein he-gylchlythyr - ac apps" yn yr archifau. Dim amser i'w darllen nawr. Siân On 2014 Meh 24, at 11:30 AM, Eluned Mai wrote: > Ond beth os ydy o mewn rhestr o un 'ein' ar ol y llall e.e. y frawddeg sy gen i ar hyn o bryd yw: 'Mae... yn rheoli ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol, yn golygu ein e-gylchlythyr/hegylchlythyr.....' ? > > > 2014-06-24 11:24 GMT+01:00 Claire Richards <[log in to unmask]>: > Rydyn ni’n osgoi’r broblem trwy ddweud / ysgrifennu “ces i ei neges ebost”. > > > > Claire > > > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg > Sent: 24 June 2014 11:23 > To: [log in to unmask] > Subject: > > > > Beth fyddech chi'n ei ddweud? Ces i ei hebost neu ces i ei ebost? Rwy'n meddwl y byddai pobl yn dweud yr 'h' felly dylid ei gynnwys, mae'n edrych yn rhyfedd ar hyn o bryd ond os bydd pobl yn ei arfer, bydd pawb yn dod yn gyfarwydd a hi. > > Muiris > > 2014-06-24 11:16 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>: > > Mi wn bod yr 'e' yn gywir ond fedra di ddim ar fy nghalon ei roi. Mae'r penbleth yma'n debyg i'r 'app' y buon ni'n ei drafod dro'n ol, tydi? > > > > Anna > > > > Ye who opt for cut'n'paste > > Tread with care and not in haste! > > > > 2014-06-24 12:14 GMT+02:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>: > > > > Bore da bawb! > > Mae'r haul yn gwenu eto diolch byth! > > A oes rheol ynteu beth yw'r farn gyffredinol ynghylch rhoi'r 'h' ar ddechrau geiriau sy'n dechrau gydag 'e-' ar ôl ei (b), ein ac eu, e.e. ein e-gylchlythyr/ein he-gylchlythyr, eu e-gyfeiriad/eu he-gyfeiriad? Ac ai er mwyn dilyn rhyw drefn fyd-eang ynghylch iaith technoleg y mae'r 'e-' yn dod o flaen y geiriau hyn, gan mai ar ôl y geiriau y basai'n dod fel arfer yn Gymraeg, e.e. cylchlythyr-e? Mae'n bur debyg bod rheswm digon dilys, dim ond nad ydw i erioed wedi clywed neb yn ei drafod. > > > > Gyda llawer o ddiolch am unrhyw oleiuni. > > > > > >