Newydd ddod ar draws enghraifft arall:
the conditions = the situation = y sefyllfa
Ann
On 11/06/2014 16:49, Osian Rhys wrote:
[log in to unmask]" type="cite">Diolch yn fawr i chi i gyd - difyr a defnyddiol!
Osian
---------- Neges wedi'i blaenyrru ----------
Oddi wrth: Carolyn <[log in to unmask]>
Dyddiad: 11 Mehefin 2014 am 15:39
Pwnc: Re: eich barnau
At: [log in to unmask]
Cyfle Cyfartal yn dal i gael ei ddefnyddio tydi am Equal Opportunities neu ydw i’n dal yn y 70au?
CarolynFrom: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 11 Mehefin 2014 15:36Mae cyfleon yn cael ei arfer yn gyffredin hefyd ac mae fymryn yn llai trwsgl.
From: [log in to unmask]" target="_blank">megan tomos
Sent: Wednesday, June 11, 2014 3:19 PM
To: [log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Subject: Re: eich barnau
Tan y saithdegau roedd cyfle yn cyfleu'r unigol neu'r lluosog. Cyfieithu esogorodd ar cyfleoedd fel sawl lluosog trwsgl arall di-angen na allaf eu cofio ar y funud.
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 11 June 2014, 15:15
Subject: Re: eich barnauEfallai mai'r rheswm yw bod y Gymraeg yn iaith ynddi ei hun, nid dim byd ond cyfieithiad o'r Saesneg. Gallech bob amser gynnig "sylwadau" yn lle "barn".
I'r gwrthwyneb: llyfr emynau, bwyd cathod ayb, ond rhaid bod "cadair olwyn" wedi ennill ei phlwyf cyn i neb gofio hyn.
Dyna fo - mae'r Cymry'n fwy rhesymegol ac yn fwy pendant eu barn!
Fel 'dych chi'n dweud, 'rwy'n amau bod 'na lu o enghreifftiau eraill.
Ann
On 11/06/2014 14:57, Osian Rhys wrote:
Pnawn da gyfeillion
Ceisio esbonio wrth rywun pam bod dweud 'barn' yn well na 'barnau' hyd yn oed os mai 'views' sy yn Saesneg.
A chymryd eich bod chi'n cytuno, oes "rheswm" am hyn? Ac oes na enghreifftiau eraill?
(Mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd wrth gwrs - alla i ddim meddwl am enghraifft ond weithiau mae enw unigol yn y gwreiddiol Saesneg yn well o'i ddweud gydag enw lluosog yn Gymraeg...)
Diolch yn fawr
OsianNo virus found in this message.
Checked by AVG - http://www.avg.com/
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3955/7661 - Release Date: 06/11/14No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7661 - Release Date: 06/11/14
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3955/7661 - Release Date: 06/11/14