Print

Print


Beth am ddilyn arfer ein sêr rygbi a’n ‘selebs’ ni a phlant o bob oed, a dweud ‘ie’ yn ateb i bob cwestiwn? Ydych chi wedi sylwi ar bethau fel hyn “Wyt ti’n edrych mlaen at fynd i Dde Affrica?” “Ie”. “Fyddwch chi’n canu yn y gig heno?” Ie”, ac ati ac ati!

Mary

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 02 June 2014 13:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: yes

 

Dyna ateb da i'r broblem.

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-06-02 14:20 GMT+02:00 Dewi Williams <[log in to unmask]>:

Beth wna' i? Rhoi bechdan arall iddo?

Ie.

 

A ddylwn i roi bechdan arall iddo?

Dylet.


Date: Mon, 2 Jun 2014 14:10:48 +0200
From: [log in to unmask]
Subject: yes
To: [log in to unmask]

Mae gen i grap go lew ar atebion yes/no ond fedra i yn fy myw feddwl am y ffordd gywir o ddeud 'yes' yn ateb y cwestiwn 'Shall i give him another sandwich?'. Ella bod gofyn deud rhywbeth fel 'Rhoi brechdan arall iddo fo sy' isio?'. Diolch

Anna