Print

Print


Rhaid pwysleisio unwaith eto nad son am ramadeg yr iaith lenyddol ydwyf wrth son am 'gywir' yn y cyd-destun yma ond newidiadau sydd ar droed oherwydd nad yw pobl yn clywed cymaint o Gymraeg o'u cwmpas ac felly'n 'anghofio'r ffurfiau cywir yn aml iawn. 

Nid yw dweud hynny'n feirniadaeth o unrhyw dafodiaith nac o unrhyw ffurfiau sy'n digwydd yn gwybl naturiol yn y tafodieithoedd ond yn sylw ynglyn a defnyddio 'ganddoch' y tu hwnt i'w ardal naturiol. 

Muiris


2014-06-02 13:27 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
Y cwbwl fedra i ddeud yn ateb i hyn ydi ei bod yn braf byw mewn ardal fel tref Caernarfon lle mae’r iaith yn hollol fyw ac yn dal i esblygu – nid yn ôl rheolau’r gramadegwyr efallai ond fel rhywbeth organig heb ddim rheolaeth arno!
 
Dyna sut y datblygodd y treigladau ac ati’n wreiddiol, wrth reswm.
 
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Muiris Mag Ualghairg
Sent: Monday, June 02, 2014 12:42 PM
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi
 
Roeddwn i'n ofalus i ddweud os nad yw'n gywir i'ch ardal ond mae llawer o ffurfiau newydd yn cael eu creu yn y Gymraeg ac mae llawer ohonynt yn amlwg yn anghywir - paham eu bod yn amlhau? Yn syml, oherwydd nad oes digon o bobl o gwmpas y siaradwr i roi patrwm o iaith gywir iddo.

O ran 'statigrwydd' - nid yw'n golygu diffyg defnydd o gwbl (ac nid wyf yn dadlau o blaid 'statigrwydd') - mewn gwirionedd mae'n dangos mwy o ddefnydd.  Rwyf wedi cwrdd a hen bobl oedd yn siarad Cymraeg pan oeddent yn ifanc ond sydd, i raddau helaeth, wedi colli'r iaith neu mae eu gafael arni'n ansicr iawn - mae'r hen bobl hyn yn siarad Cymraeg carpiog, maent yn gorfod chwilio am eiriau, yn gorfod meddwl am sut i roi brawddeg gywir at ei gilydd, pam felly, y mae eu hiaith wedi dirywio cymaint? Oherwydd nad oedd yn cael ei defnyddio ac felly doedd neb o'u cwmpas yn eu hatgoffa beunydd o'r ffurfiau cywir (ac nid wyf yn son am rywun yn dweud yn blwmp ac yn blaen mai dyma'r ffurf iawn yn eu hardal ni ond y cywiro parhaus a ddaw o glywed y ffurfiau hynny gannoedd o weithiau mewn wythnos nes eu bod ar flaen eich meddwl ac yn dod yn gwbl naturiol). Y rhai nad yw'n defnyddio'r iaith sy'n gwneud gwallau ac yn creu dryswch ac ansicrwydd o ran ffurfiau nid y rhai sy'n ei siarad bob dydd drwy'r dydd.

O ran Saesneg - ydy, mae Saesneg yn newid |(yn bennaf o ran acen) a byddwn i'n dweud bod llawer o'r newid i'w briodoli i'r niferoedd o bobl sydd yn ei siarad fel ail iaith nad ydynt wedi dysgu fersiwn gyflawn ohoni a bod y fersiwn honno wedyn yn lledu i'r siaradwyr iaith gyntaf.
 
 


2014-06-02 12:27 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>:

Ond os oedd mam Mary yn dweud ‘iddot’, mae hynny’n awgrymu’n wahanol. Dydw i ddim yn arbenigwr ar ddatblygiad iaith ond byddwn ni’n tueddu i feddwl bod ‘statigrwydd’ yn awgwrymu diffyg defnydd/diffyg newid/ffosileiddio?  Mae’r Saesneg yn newid o hyd onid yw?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Sent: 02 Mehefin 2014 12:23


To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

 

"Ella fod yr iaith yn fwy byw nag yr oedden ni'n feddwl!"

Na, i'r gwrthwyneb, mae amhlau ffurfiau fel y rhain (os nad oeddent yn rhan naturiol o dafodiaith) fel arfer yn golygu bod gafael pobl ar yr iaith yn gwanhau a'u bod yn anghofio'r ffurfiau 'cywir' (cywir yma yn golygu'r ffurfiau y mae pawb yn eu hardal yn eu defnyddio'n naturiol nid ffurfiau'r iaith lenyddol). Mae erydu ieithyddol yn arwain at bob math o ffurfiau newydd yn cael eu creu, yn union fel y bydd plentyn bach yn creu ffurfiau newydd wrth ddysgu siarad ond yn eu gollwg wrth ddod yn hyddysg yn ei iaith ac wrth gael ei gywiro'n aml (naill ai'n bwrpasol neu drwy glywed y ffurfiau 'cywir' gymaint o weithiau), ond yn wahanol i blant bach uniaith (mewn gwlad uniaith) nid yw'r to ifainc (a rhai mwy hen) yn clywed digon o Gymraeg i sicrhau bod y ffurfiau 'cywir' yn disodli'r ffurfiau newydd hyn. Gellir gweld y broses hon ar waith mewn ysgolion Cymraeg y De lle mae'r plant ail iaith yn dysgu fersiwn anghywir (yn ramadegol) a thlotach (o ran geirfa) o'r Gymraeg oherwydd nad oes digon o blant o gartrefi Cymraeg sicr (lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg ac yn cynnal yr iaith drwy gymdeithas yn yr iaith,  mynychu digwyddiadau Cymraeg ac ati) i wella Cymraeg eu ffrindiau ysgol yn naturiol. Yn wir, mae'r plant ail iaith hyn yn dylanwadu ar Gymraeg y plant o gartefi Cymraeg ac yn gwanhau eu dealltwriaeth o batrwm iaith cywir.

Rwyf yn credu y byddwn yn gweld mwy o ansicrwydd a dryswch o ran pa ffurfiau sy'n gywir yn y dyfodol.

Rhaid imi bwysleisio bod 'cywir' yn y cyd-destun yma yn golygu'r hyn sy'n gwbl naturiol i'r dafodiaith ac nid yr iaith lenyddol.


Muiris

 

2014-06-02 12:05 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>:

Diddorol, felly mae'r 'dd' wedi bod yn gwthio'i ffordd i bobman ers
cenedlaethau ac yn dechrau ennill ei phlwy!

Carolyn

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary

[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 02 Mehefin 2014 12:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

Mae'n ddrwg gen i, ond nid rhywbeth diweddar wedi'i greu yw ffurfiau fel
'iddo ti, iddo fi' ac ati yn ardal Tal-y-bont / Taliesin i'r gogledd o
Aberystwyth. Dyna oedd y ffurfiau yn nheulu fy mam, a hyd y gwn i dyna sut
mae pethe o hyd. Hynny ymhell cyn y whiw o wneud popeth yn 'haws' i
genhedlaeth iau!
Mary

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 02 June 2014 11:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

Ond dw i'n meddwl hefyd bod Ann yn iawn, sef mai ymdrech i fod yn fwy
'cywir' ar lafar yw'r 'ganddoch' / 'iddoch'. ac ati. Ar y cyfryngau/mewn
meysydd lled ffurfiol mae'n digwydd fwya, yn hytrach nag ar lafar yn
naturiol. Mae pobl yn tueddu i feddwl bod y rhain yn 'well' ffurfiau ar
lafar na 'gynnoch chi'. Wedyn, wrth ibobl glywed y ffurfiau hyn a'u gweld
mewn papurau newydd ac ati, maen nhw'n mynd yn fwy cyffredin. Nid dadlau o
blaid nac yn erbyn ydw i, ond mae'n ddiddorol gweld sut mae ffurfiau'n newid
ac yn cael eu derbyn. Ella fod yr iaith yn fwy byw nag yr oedden ni'n
feddwl!
Carolyn

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 02 Mehefin 2014 11:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

Dwi'n gweld dim byd o'i le ar "ganddoch chi" mewn cywair anffurfiol achos
mae'n Gymraeg llafar naturiol a glywir yn lled gyffredin. Difyr ydi'r ffordd
mae iaith yn datblygu ynde, fel deudodd Carolyn mae iddon ni, iddoch chi yn
mynd yn fwyfwy cyffredin hefyd.

Geraint

-----Original Message-----
From: Ann Corkett
Sent: Monday, June 02, 2014 10:54 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: gynnon ni / ganddoch chi

Amgaeaf daflen 'rwy'n ei rhoi i ddysgwyr (yn yr ardal hon).  Mae angen
ychydig o gaboli, mae'n siwr, ond mae'r tudalen olaf yn egluro'r  hyn 'rwyf
yn ei ddysgu.  Efallai "Darllenwch" fyddai'n well nag "Ysgrifennwch" yn y
golofn gyntaf.

Ann
On 02/06/2014 10:45, Huws, Howard wrote:
> Dwi'n clywed defnyddio "gynno ni" a "ginno ni" am "gennym ni" ar
> lafar, a "gynno chi" a "ginno chi" am "gennych chi". Math ar ful ydi
> "ganddoch chi", rhyw groesiad rhwng "ganddo fo/hi" a "gennych chi".
> Wir, ddown ni byth i ben ar geisio dynwared yr iaith lafar wrth
> ysgrifennu'n ffurfiol neu'n lled-ffurfiol . 'Dyw hynny, yn y diwedd,
> ond yn amhlau ffurfiau sy'n dywyll i bawb heblaw'r ysgrifennwr:  felly
> gwell cadw at "gennym" a "gennych", sy'n gwbl ddealladwy gan bawb.
> ________________________________________
> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Dafydd Timothy
> <[log in to unmask]>
> Anfonwyd: 02 Mehefin 2014 10:25
> At: [log in to unmask]
> Pwnc: gynnon ni / ganddoch chi
>
> Bore da!
>
> Ydych chi'n weddol gyfforddus yn defnyddio :
>
> 'gynnon ni' yn lle 'gennym'
> a
> 'ganddoch chi' yn lle 'gennych' ?
>
> Maen nhw'n dderbyniol, on'd ydyn nhw?
>
> Diolch,
> Dafydd
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3955/7606 - Release Date:
> 06/02/14
>
>
>







-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7602 - Release Date: 06/01/14

 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7608 - Release Date: 06/02/14