Print

Print


Mae’r sefyllfa’n gallu mynd yn ofnadwy o gymhleth ym maes Addysg lle mae ‘na dipyn o fyrfoddau Cymraeg yn cael eu defnyddio gan bobl yn y maes (ond yn hollol ddieithr i’r rhan fwyaf y tu allan). Mae gen i ddogfen ar hyn o bryd sy’n llawn byrfoddau addysg, ac mae ambell un o’r byrfoddau hynny’n cyfeirio at gyrff neu gynlluniau yn Lloegr. Petawn i’n defnyddio’r byrfoddau Saesneg ar gyfer y rhain, byddai’r ddogfen yn cynnwys rhai byrfoddau Cymraeg a rhai Saesneg a byddai hynny’n sicr yn ddryslyd i’r gynulleidfa. Wedi penderfynu defnyddio’r byrfoddau Cymraeg mwyaf cyffredin a rhoi’r pethau eraill yn llawn, ond dw i ddim yn meddwl y gall rhywun ddilyn yr un drefn bob tro – mae’n dibynnu’n llwyr ar natur y ddogfen a’r gynulleidfa a hefyd ar ba mor aml mae’r byrfodd yn digwydd. Os nad yw’n cael ei ailadrodd droeon, dw i ddim yn gweld llawer o bwynt defnyddio byrfodd yn y lle cyntaf.

 

Carolyn

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 10 Mehefin 2014 12:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: GP

 

Ia, mi fydda i'n gwneud hynny weithiau pan fydd modd, e.e. y Grwp Cynghori yn lle Grwp Cynghori hyn a hyn a hyn...

 

2014-06-10 12:13 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> >:

Weithiau mae modd dod dros y broblem hon trwy ddefnyddio "y Gymdeithas"/"y Cyngor" etc ar ôl rhoi'r enw'n llawn ar y dechrau.

 

Siân

 

 

 

On 2014 Meh 10, at 12:01 PM, Eluned Mai wrote:





Ia, dwi'n cytuno; mae'n llawer brafiach clywed y geiriau eu hunain ar lafar.  Ond son ydw i am yr adegau hynny pan fydd angen byrfodd mewn testun, fel yn yr achos hwn.  Mae adegau'n codi o hyd ac o hyd wrth gyfieithu ble basai'n fwy naturiol defnyddio byrfodd ar ol yr achlysur cyntaf ond mae rhywbeth yn fy rhwystro rhag rhoi byrfodd Cymraeg gan nad yw'n gyfarwydd fel yr un Saesneg. Wedyn, er mwyn cadw at ddefnyddio'r Gymraeg, mi fydda i'n defnyddio'r enw hirfaith ac mae'r peth yn swni'n ormodedd, yn enwedig os ydy o'n ymddangos yn aml, un frawddeg ar ol y llall.

 

2014-06-10 11:28 GMT+01:00 Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> >:

Eto, oes gwir angen byrfodd dim ond am fod y Saesneg yn defnyddio byrfodd? Os rhyw reswm pam na ellir defnyddio ‘meddyg teulu’? 

 

Mae’r Saesneg yn defnyddio’r byrfoddau hyn ar lafar yn aml iawn – GP, B and B, UK, pm, - hynny yw maent yn rhan naturiol o’r iaith lafar - ond ‘meddyg teulu’, ‘gwely a brecwast’, ‘gwledydd Prydain’, ‘y prynhawn’ y byddwn ni’n ei ddweud, felly beth am ddefnyddio’r ymadroddion hynny yn lle’r byrfodd, os nad oes ei wir angen?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> ] Ar ran/On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 10 Mehefin 2014 11:18
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> 
Subject: Re: GP

 

Yn sgil hyn, ga i godi mater arall sy'n peri anhawster i mi dro ar ol tro, sef cyfieithu byrfoddau.  Ar ol treulio oesoedd yn chwilio am yr ystyr perthnasol, sydd yn amlach na pheidio, efo enw hirfaith yn Gymraeg, rydwi'n sylweddoli na fedra i ddefnyddio byrfodd am y term yn Gymraeg gan na fasai'n amlwg beth ydyw i'r gynulleidfa.  Onid mater o arfer fasai eu defnyddio yn Gymraeg hefyd?  Mae pawb yn gwybod beth yw GP, ond fasai gan neb syniad beth yw MT.  Efallai dylen ni ddechrau britho testunau gydag MT, gydag eglurhad ar y dechrau mewn cromfachau nes bo Cymry Cymraeg o leiaf yn deall - o, ia, MT ydy meddyg teulu!   

 

2014-06-09 20:16 GMT+01:00 Mary Jones <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> >:

A gaf fi godi mater cysylltiedig yn sgil y cwestiwn hwn, os gwelwch yn dda, heb newid teitl y drafodaeth? Rwy'n sylwi ers sbel fod nifer fawr o bobol, ar lafar ac ar bapur, nawr yn defnyddio 'doctor' yn hytrach na 'meddyg'. Ond dydw i ddim wedi clywed 'doctor teulu' eto chwaith! Rhyfedd fel mae arferion 'diog' (?) yn gwreiddio mor gyflym, ond bod ymadroddion/termau newydd mor styfnig i dyfu!
Mary



-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> ] On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 08 June 2014 23:44
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> 
Subject: GP

Ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r acronym 'GP' am feddyg teulu?

Dafydd