Braf clywed bod y Gymraeg yn ddiogel yn nwylo Jamie Owen! Carolyn -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy Sent: 10 Mehefin 2014 11:20 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: GP Wnes i hyd yn oed glywed Jamie Owen, o bawb, ar Wales Today yr wythnos dwytha, yn sôn am Ysbyty Cwm Cynon, er bod Cynon Valley Hospital hefyd i'w weld ar yr arwydd y tu allan - mae gobaith eto! On 10/06/2014 11:12, Geraint Lovgreen wrote: > Os ydan ni am ddechrau collfarnu pobol am ddefnyddio > "doctor/doctoriaid" bydd rhaid cynnwys y rhan fwyaf o'n llenorion > clasurol fel Kate Roberts, Saunders Lewis ac ati. > > Ond mae "hosbitol" yn graddol gael ei ddisodli gan "ysbyty", felly > dydi hi ddim yn ddu i gyd, Howard! > > -----Original Message----- From: Huws, Howard > Sent: Tuesday, June 10, 2014 8:55 AM > To: [log in to unmask] > Subject: ATB: GP > > Y mae pobl yn cymryd eu harwain gan y cyfryngau. Gwrandewch Radio > Cymru, a sylwch pa mor aml y mae'r cyflwynwyr yn defnyddio > "doctor/doctoriaid" yn hytrach na "meddyg/meddygon". > > ________________________________________ > Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Mary Jones > <[log in to unmask]> > Anfonwyd: 09 Mehefin 2014 20:16 > At: [log in to unmask] > Pwnc: Re: GP > > A gaf fi godi mater cysylltiedig yn sgil y cwestiwn hwn, os gwelwch yn > dda, heb newid teitl y drafodaeth? Rwy'n sylwi ers sbel fod nifer fawr > o bobol, ar lafar ac ar bapur, nawr yn defnyddio 'doctor' yn hytrach > na 'meddyg'. Ond dydw i ddim wedi clywed 'doctor teulu' eto chwaith! > Rhyfedd fel mae arferion 'diog' (?) yn gwreiddio mor gyflym, ond bod > ymadroddion/termau newydd mor styfnig i dyfu! > Mary > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of > Dafydd Lewis > Sent: 08 June 2014 23:44 > To: [log in to unmask] > Subject: GP > > Ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r acronym 'GP' am feddyg teulu? > > Dafydd > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7648 - Release Date: 06/09/14