Yr Anthem Wladol, “Duw Gadwo’r Frenhines”(Cyfieithiad buddugol Gwilym Mai, Caerfyrddin.)
Duw cadw ar bob awr,Frenhines Prydain Fawr,Amddiffyn hon:Amgaera Di ei sedd,Rhag creulawn rwyg y cledd,O cadw hyd y beddVictoria lon.Duw gwasgar ar bob prydElynion hon i gyd,Tor hwynt i lawr:Dyrysa’u bradau cudd,Diddyma’u castiau prudd,Ein hyder ynot sydd,Î Arglwydd mawr.Bendithion pena’r nenDyhidla ar ei phen;Hir oes i hon:Diffyned deddfau n tir,---Ninnau î galon burDdymunwn einioes hirVictoria lon.Caed Albert ddyddiau hirI noddi’n Banon bur,A hedd i’w fron:Ei ymgais ef î hydFo llwyr ddiwygio’r byd,A byw yn serch a phrydVictoria lon.Ac i’n T’wysoges fach,Î bydded hiroes iach,Heb unrhyw loes;Boed Duw yn Dduw i r Fam,Yn nawdd i r Tad rhag cam,A chadw’r Ferch rhag nam,Hyd ddiwedd oes.
Y Gwladgarwr, 1840, t.59
Date: Thu, 5 Jun 2014 23:34:13 +0200
From: [log in to unmask]
Subject: Re: God Save the Queen!
To: [log in to unmask]Na, fedra inna yn fy myw chwaith ddim dirnad pan basa Gwyddel isio gweld geiria'r gan yna heb son am ei chyfieithu i'r Wyddeleg - pawb at y peth y bo.AnnaYe who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!2014-06-05 23:15 GMT+02:00 Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]>:Meg, diolch, mae fy nghefnder yn Iwerddon eisau'r geiriau (ac allaf i ddim yn fy myw ddychmygu y byddai'n eu canu chwaith) - mae wedi addo cyfieithu'r Saesneg i Wyddeleg hefyd (eto, allaf i ddim dirnad paham byddai rhywun eisiau gwneud y fath beth!).Ann, diolch am edrych.
Muiris2014-06-05 21:50 GMT+01:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:'Rwy'n falch bod Meg wedi llwyddo. Edrychais mewn copi o "Emynau'r Llan", ym mynegai'r mesurau, heb ei gael. Yn eironig, mae un am freinin arall yn y mesur hwnnw:
Ni chafodd brenin nef
Y dydd y ganed ef
Un cartref gwych!
AnnOn 05/06/2014 18:16, Muiris Mag Ualghairg wrote:Gyfeillion
A oes gan un ohonoch chi gopi o eiriau God Save the Queen yn Gymraeg. Rwy'n gwybod bod y geiriau ar gael mewn llyfr emynau (un o eiddo'r Eglwys yng Nghymru), a dweud y gwir mae gennyf i gopi ond mae wedi'i gladdu dan gannoedd o lyfrau eraill mewn storfa ac mae angen y geiriau arnaf yn weddol sydyn.
Diolch ymlaen llaw
MuirisNo virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3955/7626 - Release Date: 06/05/14