Dw i’n rhyw feddwl mai ‘(A) Ro’i frechdan arall iddo fo?’ neu ‘(A) Wna’i roi brechdan arall iddo fo? Ac felly yr ateb fyddai ‘rhof’/‘gwnaf’ am wn i. Neu, ar lafar, mae’n siŵr y byddai rhywun yn dweud, ‘Mi ro’i frechdan arall iddo fo, ia? Neu ‘Be am roi brechdan arall iddo fo, ac wedyn yn ateb ‘ia’. ???
Carolyn
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 02 Mehefin 2014 13:11
To: [log in to unmask]
Subject: yes
Mae gen i grap go lew ar atebion yes/no ond fedra i yn fy myw feddwl am y ffordd gywir o ddeud 'yes' yn ateb y cwestiwn 'Shall i give him another sandwich?'. Ella bod gofyn deud rhywbeth fel 'Rhoi brechdan arall iddo fo sy' isio?'. Diolch
Anna