'Rwy'n falch bod Meg wedi llwyddo. Edrychais mewn copi o "Emynau'r Llan", ym mynegai'r mesurau, heb ei gael. Yn eironig, mae un am freinin arall yn y mesur hwnnw:
Ni chafodd brenin nef
Y dydd y ganed ef
Un cartref gwych!
Ann
On 05/06/2014 18:16, Muiris Mag Ualghairg wrote:
Gyfeillion
A oes gan un ohonoch chi gopi o eiriau God Save the Queen yn Gymraeg. Rwy'n gwybod bod y geiriau ar gael mewn llyfr emynau (un o eiddo'r Eglwys yng Nghymru), a dweud y gwir mae gennyf i gopi ond mae wedi'i gladdu dan gannoedd o lyfrau eraill mewn storfa ac mae angen y geiriau arnaf yn weddol sydyn.
Diolch ymlaen llaw
MuirisNo virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3955/7626 - Release Date: 06/05/14