Print

Print


Google – “arsylwi ar wersi” – 1,420 enghraifft
“arsylwi gwersi” – 1,390 

Felly “arsylwi ar” sy’n mynd â hi o fymryn!

Geraint

From: Garry Nicholas 
Sent: Wednesday, June 04, 2014 3:00 PM
To: [log in to unmask] 
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Arsylwi - Addysg

Anghytuno- arsylwi gwersi sy'n naturiol bellach (er efallai bod rhai enghreifftiau o arsylwi ar) Wedi bod yn rhan o'r byd addysg yn ddigon hir i farnu mai arsylwi gwersi a ddefnyddir yn naturiol erbyn hyn 
Garry



-----Original Message-----
From: Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]>
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
Sent: Wed, 4 Jun 2014 14:42
Subject: ATB/RE: ATB/RE: Arsylwi - Addysg


A minnau’n llywodraethwr ysgol, rwy’n ddigon ffodus i gael darllen amryw ddogfennau cyffrous o fyd addysg ac rwy’n gweld y ddau. Ac rwy hefyd yn gweld digon o Gymraeg byd addysg i wybod nad yw bob amser yn esiampl ddisglair o Gymraeg cyhyrog a naturiol. Ond os rhowch ‘arsylwi ar’ yng Ngoogle fe welwch enghreifftiau lu o’r arddodiad yn cael ei ddefnyddio’n eang gan y Llywodraeth, undebau athrawon, colegau, Estyn, etc. Ac rwy heb edrych, ond rwy’n ddigon ffyddiog bod yr un cyrff yn defnyddio’r ‘arsylwi’ heb yr arddodiad hefyd. 

Dyw’r amrywio hynny ddim yn beth newydd chwaith – os edrychwch ar ffurf debyg e.e. ‘ardrethu’ - mae GPC (dim ond yr argraffiad 1af sydd gennyf) yn rhoi tri dyfyniad enghreifftiol o’r 14g-15g – un yn defnyddio ‘ardrethu ar’ a dau yn hepgor yr arddodiad. 

Ac ys gwetws David ac eraill, dyw’r ffaith bod gair wedi’i lunio o elfennau sy’n cynnwys arddodiad ddim yn golygu na ddylid defnyddio’r arddodiad wedyn – ‘argraffu ar bapur‘, ‘arglwydd ar saith cantref Dyfed’    

Rwyf i’n cael ‘arsylwi gwersi’ yn hynod chwithig; mae’n debyg bod Sylvia’n iawn, dylanwad y Saesneg eto byth (er bod enghreifftiau hanesyddol ‘ardrethu’ yn awgrymu efallai nad yw’n hollol anghymreigaidd). I mi ‘arsylwi ar wersi’ sy’n naturiol, ac mae’n dal i fod yn fyw ym myd addysg.  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 04 Mehefin 2014 13:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Arsylwi - Addysg

Ond ym myd addysg yr hyn a ddefnyddir yn gyffredinol yw - arsylwi gwersi 
Garry


-----Original Message-----
From: Translation Unit <[log in to unmask]>
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
Sent: Wed, 4 Jun 2014 13:43
Subject: ATB/RE: Arsylwi - Addysg
Roeddwn i’n meddwl ein bod wedi cael ateb pendant gan imi gofnodi sylwadau David Bullock sef:

Dwy ddim yn deall pam y byddai berf sy'n cael ei defnyddio mewn cyfuniad ag arddodiad yn colli'r arddodiad wedyn wrth i ragddodiad gael ei ychwanegu ati i greu berf gyfansawdd.

Hynny yw, dyw "canolbwyntio ar ei waith" ddim yn troi'n "gorganolbwyntio ei waith", dyw "edrychwch arno fe" ddim yn troi'n "ciledrychwch e", dyw "gwenu ar ryw ferch" ddim yn troi'n "crechwenu rhyw ferch". Er ychwanegu rhagddodiad, mae'r arddodiad  yn cael ei gadw yr un fath.

mae hyn eto yn ffafrio cadw "ar" ar ôl "arsylwi".


Hwyl

Llŷr

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn
Sent: 04 June 2014 12:40
To: [log in to unmask]
Subject: Arsylwi - Addysg

Roedd ‘na drafodaeth am hyn yn 2003 – a dim ateb pendant hyd y gwela’i. Beth yw barn y cylch?

Pan fydd ‘arsylwi’ yn cael ei ddefnyddio ym maes addysg e.e. Observation of lessons, oes angen yr arddodiad ‘ar’?  
Ai ‘ arsylwi gwersi’ ‘ta ‘arsylwi ar wersi’? 

Carolyn


Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiadau yn gyfrinachol ac wedi'u bwriadu at ddefnydd yr unigolyn y'u cyfeiriwyd ato/ati yn unig. Os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r sawl a'i hanfonodd ar unwaith, dil�wch y neges o'ch cyfrifiadur a dinistriwch unrhyw gop�au papur ohoni. Ni ddylech ddangos yr e-bost i neb arall, na gweithredu ar sail y cynnwys. Eiddo'r awdur yw unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwynt y Cyngor. Dylech wirio am firysau eich hunan cyn agor unrhyw atodiad. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu niwed a all fod wedi'i achosi gan firysau meddalwedd neu drwy ryng-gipio'r neges hon neu ymyrryd � hi.

This e-mail and any attachments are confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. If received in error please notify the sender immediately, delete the message from your computer and destroy any hard copies. The e-mail should not be disclosed to any other person, nor the contents acted upon. Any views or opinions expressed are those of the author and do not necessarily represent those of the Council. You should carry out your own virus check before opening any attachment. We accept no liability for any loss or damage which may be caused by software viruses or interception/interruption of this mail. 
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7608 - Release Date: 06/02/14