Print

Print


"Ella fod yr iaith yn fwy byw nag yr oedden ni'n feddwl!"

Na, i'r gwrthwyneb, mae amhlau ffurfiau fel y rhain (os nad oeddent yn rhan naturiol o dafodiaith) fel arfer yn golygu bod gafael pobl ar yr iaith yn gwanhau a'u bod yn anghofio'r ffurfiau 'cywir' (cywir yma yn golygu'r ffurfiau y mae pawb yn eu hardal yn eu defnyddio'n naturiol nid ffurfiau'r iaith lenyddol). Mae erydu ieithyddol yn arwain at bob math o ffurfiau newydd yn cael eu creu, yn union fel y bydd plentyn bach yn creu ffurfiau newydd wrth ddysgu siarad ond yn eu gollwg wrth ddod yn hyddysg yn ei iaith ac wrth gael ei gywiro'n aml (naill ai'n bwrpasol neu drwy glywed y ffurfiau 'cywir' gymaint o weithiau), ond yn wahanol i blant bach uniaith (mewn gwlad uniaith) nid yw'r to ifainc (a rhai mwy hen) yn clywed digon o Gymraeg i sicrhau bod y ffurfiau 'cywir' yn disodli'r ffurfiau newydd hyn. Gellir gweld y broses hon ar waith mewn ysgolion Cymraeg y De lle mae'r plant ail iaith yn dysgu fersiwn anghywir (yn ramadegol) a thlotach (o ran geirfa) o'r Gymraeg oherwydd nad oes digon o blant o gartrefi Cymraeg sicr (lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg ac yn cynnal yr iaith drwy gymdeithas yn yr iaith,  mynychu digwyddiadau Cymraeg ac ati) i wella Cymraeg eu ffrindiau ysgol yn naturiol. Yn wir, mae'r plant ail iaith hyn yn dylanwadu ar Gymraeg y plant o gartefi Cymraeg ac yn gwanhau eu dealltwriaeth o batrwm iaith cywir.

Rwyf yn credu y byddwn yn gweld mwy o ansicrwydd a dryswch o ran pa ffurfiau sy'n gywir yn y dyfodol.

Rhaid imi bwysleisio bod 'cywir' yn y cyd-destun yma yn golygu'r hyn sy'n gwbl naturiol i'r dafodiaith ac nid yr iaith lenyddol.


Muiris


2014-06-02 12:05 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>:
Diddorol, felly mae'r 'dd' wedi bod yn gwthio'i ffordd i bobman ers
cenedlaethau ac yn dechrau ennill ei phlwy!
Carolyn

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 02 Mehefin 2014 12:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

Mae'n ddrwg gen i, ond nid rhywbeth diweddar wedi'i greu yw ffurfiau fel
'iddo ti, iddo fi' ac ati yn ardal Tal-y-bont / Taliesin i'r gogledd o
Aberystwyth. Dyna oedd y ffurfiau yn nheulu fy mam, a hyd y gwn i dyna sut
mae pethe o hyd. Hynny ymhell cyn y whiw o wneud popeth yn 'haws' i
genhedlaeth iau!
Mary

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 02 June 2014 11:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

Ond dw i'n meddwl hefyd bod Ann yn iawn, sef mai ymdrech i fod yn fwy
'cywir' ar lafar yw'r 'ganddoch' / 'iddoch'. ac ati. Ar y cyfryngau/mewn
meysydd lled ffurfiol mae'n digwydd fwya, yn hytrach nag ar lafar yn
naturiol. Mae pobl yn tueddu i feddwl bod y rhain yn 'well' ffurfiau ar
lafar na 'gynnoch chi'. Wedyn, wrth ibobl glywed y ffurfiau hyn a'u gweld
mewn papurau newydd ac ati, maen nhw'n mynd yn fwy cyffredin. Nid dadlau o
blaid nac yn erbyn ydw i, ond mae'n ddiddorol gweld sut mae ffurfiau'n newid
ac yn cael eu derbyn. Ella fod yr iaith yn fwy byw nag yr oedden ni'n
feddwl!
Carolyn

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 02 Mehefin 2014 11:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gynnon ni / ganddoch chi

Dwi'n gweld dim byd o'i le ar "ganddoch chi" mewn cywair anffurfiol achos
mae'n Gymraeg llafar naturiol a glywir yn lled gyffredin. Difyr ydi'r ffordd
mae iaith yn datblygu ynde, fel deudodd Carolyn mae iddon ni, iddoch chi yn
mynd yn fwyfwy cyffredin hefyd.

Geraint

-----Original Message-----
From: Ann Corkett
Sent: Monday, June 02, 2014 10:54 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: gynnon ni / ganddoch chi

Amgaeaf daflen 'rwy'n ei rhoi i ddysgwyr (yn yr ardal hon).  Mae angen
ychydig o gaboli, mae'n siwr, ond mae'r tudalen olaf yn egluro'r  hyn 'rwyf
yn ei ddysgu.  Efallai "Darllenwch" fyddai'n well nag "Ysgrifennwch" yn y
golofn gyntaf.

Ann
On 02/06/2014 10:45, Huws, Howard wrote:
> Dwi'n clywed defnyddio "gynno ni" a "ginno ni" am "gennym ni" ar
> lafar, a "gynno chi" a "ginno chi" am "gennych chi". Math ar ful ydi
> "ganddoch chi", rhyw groesiad rhwng "ganddo fo/hi" a "gennych chi".
> Wir, ddown ni byth i ben ar geisio dynwared yr iaith lafar wrth
> ysgrifennu'n ffurfiol neu'n lled-ffurfiol . 'Dyw hynny, yn y diwedd,
> ond yn amhlau ffurfiau sy'n dywyll i bawb heblaw'r ysgrifennwr:  felly
> gwell cadw at "gennym" a "gennych", sy'n gwbl ddealladwy gan bawb.
> ________________________________________
> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]> ar ran Dafydd Timothy
> <[log in to unmask]>
> Anfonwyd: 02 Mehefin 2014 10:25
> At: [log in to unmask]
> Pwnc: gynnon ni / ganddoch chi
>
> Bore da!
>
> Ydych chi'n weddol gyfforddus yn defnyddio :
>
> 'gynnon ni' yn lle 'gennym'
> a
> 'ganddoch chi' yn lle 'gennych' ?
>
> Maen nhw'n dderbyniol, on'd ydyn nhw?
>
> Diolch,
> Dafydd
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3955/7606 - Release Date:
> 06/02/14
>
>
>







-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus Database: 3955/7602 - Release Date: 06/01/14