Wrth feddwl, efallai byddai "cyd-fynd a^ ffordd o fyw" yn well nag "adlewyrchu ffordd o fyw"? Ann On 25/06/2014 10:30, Ann Corkett wrote: > > Gobeithio bod rhywun yn deall yn well na fi beth *yw* "lifestyle > investments". > > Mae wefan Zurich (cwmni parchus - > http://zdownload.zurich.co.uk/corporatepensions/es/plan_documents/hcc/Lifestyle.pdf) > yn awgrymu eu bod yn fuddsoddiadau sy'n cael eu haddasu yn ol eich > sefyllfa, e.e. os ydych ar fin ymddeol: > > Some investors may not be comfortable with making or reviewing > investment decisions. Lifestyle investment options are designed to > allow you to invest payments and money held in your retirement > account automatically in line with a pre-agreed lifestyle profile. > This strategy is based on how close you are to your selected > retirement date without you having to make day to day investment > decisions. > > > Nid yw rhai gwefannau'n ymddangos yn wahanol iawn i gynigion > "time-share" (prynwch eiddo dramor er mwyn cael gwyliau ac ennill > arian am ei osod), tra sonia eraill am ymarfer corff a bwyta'n dda er > mwyn dyfodol iach. > > Cyhyd ag y gallaf weld, mae'r ymadrodd "Lifestyle Investment" yn > ymddangos yn amlach mewn *enwau* cwmniau nag mewn unrhyw destun sydd > ganddynt. > > Gan gymryd bod Zurich yn nes ati, a fyddai"newid buddsoddiadau i > adlewyrchu newid mewn ffordd o fyw" neu "newid buddsoddiadau sy'n > adlewyrchu'ch ffordd o fyw" yn ddisgrifiadau a fyddai'n ffitio *ystyr* > yr hyn 'rydych chi'n ei gyfieithu? Efallai cewch derm mwy cryno gan > rywun arall, ond mae cyfieithu'r pethau hyn yn dechrau efo eu deall > nhw.A dweud y gwir, os nad yw'r term yn debyg o godi'n aml, efallai > byddai eglurhad yn well na bathu term - fel y bydd y Gymraeg yn haws > ei ddeall na'r Saesneg.Mae'n haws darllen jargon yn Saesneg a *meddwl* > eich bod chi'n ei ddeall nag y mae yn y Gymraeg. > > 'Rwy'n dechrau gofyn imi fy hun pwy sy'n mynd i ddarllen y ddogfen > 'dych chi'n ei chyfieithu, ac a fydd unrhyw angen i neb ei darllen > na'i deall, ynteu ai dim ond ymarfer cywirdeb gwleidyddol yw comisiynu > fersiwn Cymraeg? Byd hynny fel y bo, rhaid mynd ati gyda'r bwriad y > *bydd* pobl yn medru ei darllen a'i deall. > > Pob lwc! > > Ann > > On 25/06/2014 10:01, Dafydd Timothy wrote: >> >> >> Unrhyw awgrymiadau? >> Y cyd-destun eto ydi dogfen yn ymwneud â phensiynau. >> >> *lifestyle investment switching*** >> a* >> **lifestyle investment switches*. >> >> Diolch, >> Dafydd >> >> >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> >> Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3972/7740 - Release Date: 06/25/14 >> > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3972/7740 - Release Date: 06/25/14 >