Dyma sylwadau Bruce.Gan fy mod i'n anfon copi at Duncan Brown a Llyr Gruffydd 'rwyf wedi cynnwys yn y neges hon sylwadau sydd eisoes wedi'u cynnig gan aelodau eraill y grwp: Cauliflower sponge /Celtodoryx ciacolyptoides /- ?Sbwng blodfresychen, Blodfresychen fôr BG - Yn ol Webster, enw lleol yn yr U.D. ar "Alcyonium multiflorum" yw "sea cauliflower".Dylid cadw blodfresychen fo^r ar gyfer hwnnw mae'n debyg. Ar gyfer y sbwng "celtodoryx(a yw "ciacolyptoides" yn gywir, ynteu "ciocalyptoides"?), fel y dengys yr ansoddair "multiflorum" y cyfeiriad yw at yr *olwg* ar y creadur, fel petai arno nifer o bennau blodau.Awgrymaf "sbwng blodeuog" (onid oes eisoes sbwng o'r enw "flowery sponge") neu "sbwng amlflodeuog" petai raid.Cytunaf fod "sbwng blodfresychen yn llond ceg annaturiol. Fluted sea squirt /Ascidiella aspersa /- ?Chwistrell fôr rychiog BG - Chwistrell fo^r rychog [*nid* "rychiog"} Blue crab /Callinectes sapidus /?Cranc glas Dywed Bethan: y shore crab ydi'r cranc glas - /Carcinus maenas/ Dywed Howard: "Cefais wybod mai "American blue crab" yw /Callinectes sapidus/, felly beth am "cranc glas Americanaidd"?" BG - Yn symlach byth, beth am "cranc glas America" American lobster /Homarus americanus /?Cimwch Americanaidd BG - Beth am "cimwch America"?