Print

Print


Wrth feddwl, efallai byddai "cyd-fynd a^ ffordd o fyw" yn well nag "adlewyrchu ffordd o fyw"?
Ann
On 25/06/2014 10:30, Ann Corkett wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

Gobeithio bod rhywun yn deall yn well na fi beth *yw* "lifestyle investments". 

Mae wefan Zurich (cwmni parchus - http://zdownload.zurich.co.uk/corporatepensions/es/plan_documents/hcc/Lifestyle.pdf) yn awgrymu eu bod yn fuddsoddiadau sy'n cael eu haddasu yn ol eich sefyllfa, e.e. os ydych ar fin ymddeol:

Some investors may not be comfortable with making or reviewing investment decisions. Lifestyle investment options are designed to allow you to invest  payments and money held in your retirement account automatically in line with a pre-agreed lifestyle profile. This strategy is based on how close you are to your selected retirement date without you having to make day to day investment decisions.


Nid yw rhai gwefannau'n ymddangos yn wahanol iawn i gynigion "time-share" (prynwch eiddo dramor er mwyn cael gwyliau ac ennill arian am ei osod), tra sonia eraill am ymarfer corff a bwyta'n dda er mwyn dyfodol iach.

Cyhyd ag y gallaf weld, mae'r ymadrodd "Lifestyle Investment" yn ymddangos yn amlach mewn *enwau* cwmniau nag mewn unrhyw destun sydd ganddynt.

Gan gymryd bod Zurich yn nes ati, a fyddai  "newid buddsoddiadau i adlewyrchu newid mewn ffordd o fyw" neu "newid buddsoddiadau sy'n adlewyrchu'ch ffordd o fyw" yn ddisgrifiadau a fyddai'n ffitio *ystyr* yr hyn 'rydych chi'n ei gyfieithu? Efallai cewch derm mwy cryno gan rywun arall, ond mae cyfieithu'r pethau hyn yn dechrau efo eu deall nhw.  A dweud y gwir, os nad yw'r term yn debyg o godi'n aml, efallai byddai eglurhad yn well na bathu term - fel y bydd y Gymraeg yn haws ei ddeall na'r Saesneg.  Mae’n haws darllen jargon yn Saesneg a *meddwl* eich bod chi’n ei ddeall nag y mae yn y Gymraeg.

'Rwy'n dechrau gofyn imi fy hun pwy sy'n mynd i ddarllen y ddogfen 'dych chi'n ei chyfieithu, ac a fydd unrhyw angen i neb ei darllen na'i deall, ynteu ai dim ond ymarfer cywirdeb gwleidyddol yw comisiynu fersiwn Cymraeg? Byd hynny fel y bo, rhaid mynd ati gyda’r bwriad y *bydd* pobl yn medru ei darllen a’i deall.

Pob lwc!

Ann

On 25/06/2014 10:01, Dafydd Timothy wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

Unrhyw awgrymiadau?
Y cyd-destun eto ydi dogfen yn ymwneud â phensiynau.

lifestyle investment switching
a
lifestyle investment switches.

Diolch,
Dafydd


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3972/7740 - Release Date: 06/25/14


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3972/7740 - Release Date: 06/25/14