Gobeithio bod rhywun yn deall yn well na fi
beth *yw*
"lifestyle investments".
Mae wefan Zurich (cwmni parchus -
http://zdownload.zurich.co.uk/corporatepensions/es/plan_documents/hcc/Lifestyle.pdf)
yn
awgrymu eu bod yn fuddsoddiadau sy'n cael eu haddasu yn ol eich
sefyllfa,
e.e. os ydych ar fin ymddeol:
Some investors may not
be comfortable with making or
reviewing investment decisions. Lifestyle investment options are
designed to
allow you to invest payments and money held in your retirement
account automatically
in line with a pre-agreed lifestyle profile. This strategy is
based on how
close you are to your selected retirement date without you
having to make day
to day investment decisions.
Nid yw rhai gwefannau'n ymddangos yn wahanol iawn i gynigion
"time-share" (prynwch eiddo dramor er mwyn cael gwyliau ac
ennill
arian am ei osod), tra sonia eraill am ymarfer corff a bwyta'n
dda er mwyn
dyfodol iach.
Cyhyd ag y gallaf weld, mae'r ymadrodd "Lifestyle Investment" yn
ymddangos yn amlach mewn *enwau* cwmniau nag mewn unrhyw destun
sydd ganddynt.
Gan gymryd bod Zurich yn nes ati, a fyddai
"newid buddsoddiadau i adlewyrchu newid mewn ffordd o
fyw" neu
"newid buddsoddiadau sy'n adlewyrchu'ch ffordd o fyw" yn
ddisgrifiadau a fyddai'n ffitio *ystyr* yr hyn 'rydych chi'n ei
gyfieithu?
Efallai cewch derm mwy cryno gan rywun arall, ond mae
cyfieithu'r pethau hyn yn
dechrau efo eu deall nhw. A
dweud y gwir,
os nad yw'r term yn debyg o godi'n aml, efallai byddai eglurhad
yn well na
bathu term - fel y bydd y Gymraeg yn haws ei ddeall na'r
Saesneg. Mae’n haws
darllen jargon yn Saesneg a
*meddwl* eich bod chi’n ei ddeall nag y mae yn y Gymraeg.
'Rwy'n dechrau gofyn imi fy hun pwy sy'n mynd i ddarllen y ddogfen 'dych chi'n ei chyfieithu, ac a fydd unrhyw angen i neb ei darllen na'i deall, ynteu ai dim ond ymarfer cywirdeb gwleidyddol yw comisiynu fersiwn Cymraeg? Byd hynny fel y bo, rhaid mynd ati gyda’r bwriad y *bydd* pobl yn medru ei darllen a’i deall.
Pob lwc![log in to unmask]" type="cite">
Unrhyw awgrymiadau?
Y cyd-destun eto ydi dogfen yn ymwneud â phensiynau.
lifestyle investment switching
a
lifestyle investment switches.
Diolch,
Dafydd
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4592 / Virus Database: 3972/7740 - Release Date: 06/25/14