Dyma sylwadau Bruce. Gan fy mod i’n anfon copi at Duncan Brown a Llyr Gruffydd ‘rwyf wedi cynnwys yn y neges hon sylwadau sydd eisoes wedi’u cynnig gan aelodau eraill y grwp:
Cauliflower sponge Celtodoryx ciacolyptoides - ?Sbwng blodfresychen, Blodfresychen fôr
BG - Yn ol Webster, enw lleol yn yr U.D. ar “Alcyonium multiflorum” yw “sea cauliflower”. Dylid cadw blodfresychen fo^r ar gyfer hwnnw mae’n debyg.
Ar gyfer y sbwng “celtodoryx (a yw “ciacolyptoides” yn gywir, ynteu “ciocalyptoides”?), fel y dengys yr ansoddair “multiflorum” y cyfeiriad yw at yr *olwg* ar y creadur, fel petai arno nifer o bennau blodau. Awgrymaf “sbwng blodeuog” (onid oes eisoes sbwng o’r enw “flowery sponge”) neu “sbwng amlflodeuog” petai raid. Cytunaf fod “sbwng blodfresychen yn llond ceg annaturiol.
BG - Chwistrell fo^r
rychog [*nid* “rychiog”}
Blue crab Callinectes sapidus ?Cranc glas
Dywed Bethan: y shore crab ydi’r cranc glas - Carcinus maenas
Dywed Howard: “Cefais wybod mai "American blue crab" yw Callinectes sapidus, felly beth am "cranc glas Americanaidd"?”
BG - Yn symlach byth,
beth am “cranc
glas America”
American lobster Homarus
americanus ?Cimwch Americanaidd
BG - Beth am “cimwch America”?