[Bilginual message, English below Cymraeg]

 

From: McGrogan, Seaneen (SF - Culture & Sport - CyMAL) [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 06 June 2014 14:36
Subject: MANNAU SYDD AR GAEL - CyMAL Cwrs rhad ac am ddim - Rheoli Newid - 09-Gorffennaf-2014 & 15-Gorffennaf-2014

 

MANNAU SYDD AR GAEL

 

CyMAL Cwrs rhad ac am ddim

 

Rheoli Newid

 

Llyfrgell Ganolog Caerdydd

09-Gorffennaf-2014

 

Media Resource Centre – Llandrindod Wells

15-Gorffennaf-2014

 

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae’n addas i reolwyr a goruchwylwyr y gwasanaethau Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru.

 

 

Nod

Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo’r cyfranogwyr i sicrhau gwell rheolaeth dros y sialensiau a ddaw yn sgil newid a bod yn ‘Arweinwyr Newid’ llwyddiannus, gan ddatblygu eu hunain, ac eraill, i reoli newid, ac ymateb iddo, mewn modd cadarnhaol.

 

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn gallu:

·         Cydnabod a chyfathrebu cyd-destun ac amcan hollbwysig newid yn y Gwasanaethau Cyhoeddus

·         Deall y rhwystrau dynol rhag cyflawni newid llwyddiannus

·         Helpu eraill i adnabod yr angen am newid

·         Datblygu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer newid y gall pobl eu cefnogi

·         Defnyddio arfau a dulliau gweithredu syml i ddadansoddi cyd-destun o newid a gweithredu cynllun

·         Creu agwedd gynhwysol tuag at newid, sef yr agwedd orau i gyflawni canlyniadau

 

Caiff y cyfranogwyr eu hannog i greu cynllun gweithredu personol i’w cefnogi wrth iddynt roi cynnwys y rhaglen ar waith yn eu sefyllfaoedd gwaith eu hunain

 

Dulliau Hyfforddi

Mae’r cwrs ymarferol a rhyngweithiol hwn yn canolbwyntio ar yr agweddau o newid sy’n ymwneud â ‘phobl’. Mae’n cynnig dulliau a strategaethau i’r cyfranogwyr er mwyn iddynt allu rheoli’r ffordd y maent hwy eu hunain yn ymateb i sialensiau newid a sicrhau ymlyniad timau i fod yn gyfranogwyr brwd mewn rhaglenni newid. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio ymatebion seicolegol i newid, yn ystyried y ffordd orau i arwain timau ac unigolion drwy gyfnod o newid, sut y gallant gynorthwyo eraill i ymrwymo i’r gwaith o gyfrannu at gyflawni newid, y ffordd orau iddynt sicrhau fod y newid yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol a sut y gallant wneud i’r newid fod yn barhaol.

 

Paratoi

Nid oes angen paratoi’n ffurfiol. Fodd bynnag, bydd y cynrychiolwyr yn elwa’n fwy o’r rhaglen os ydynt wedi pwyso a mesur eu profiad personol o newid, eu profiad o weithredu newid ac, yn bwysicaf oll, a ydynt yn ymwybodol o’r sialensiau sy’n eu hwynebu hwy a’u timau dros y misoedd i ddod.

 

Hyfforddwr

Richard Andrews, Corporate Instinct Cyf.

 

Cofrestru

Dim ond dau gais i gofrestru y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno, ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes i chi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.

 

Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.

 

De - https://www.eventbrite.co.uk/e/managing-change-09-july-2014-rheoli-newid-09-gorffennaf-2014-registration-11802705209

Gogledd - https://www.eventbrite.co.uk/e/managing-change-15-july-2014-rheoli-newid-15-gorffennaf-2014-registration-11803004103

 

 

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl i chi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

 

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Lauren Baldwin ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu 0300 062 2251 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

 

 

SPACES AVAILABLE

 

Free CyMAL Course

 

Managing Change

 

Cardiff Central Library

09-July-2014

 

Media Resource Centre – Llandrindod Wells

15-July-2014

 

This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for managers and supervisors within Museums, Archives and Library services in Wales.

 

 

Aim

This course aims to support participants to better manage the challenges of change in order to become successful ‘Change Leaders’, developing themselves and others to manage and respond to change positively

 

By the end of the course participants will be able to:

·         Recognise and communicate the context and imperative of Public Service change

·         Understand the human barriers to achieving successful change

·         Help others recognise the need for change

·         Develop a vision and strategy for change that people can ‘buy into’

·         Use straightforward tools and approaches to analyse a change context and plan action

·         Create an inclusive approach to change that is best able to deliver results

 

        Delegates will be encouraged to create a personal action plan to support them in applying the programme content to their particular work circumstances

 

Training Methods

This practical and interactive course focuses on the ‘people’ aspects of change offering delegates tools and strategies for managing their own reactions to the challenge of change and for engaging teams as active participants in change programmes.  Delegates will explore psychological responses to change, consider how they can best lead teams and individuals through change, how they can support others to commit to contributing to achieving change, how they can best ensure that change leads to positive outcomes and how they can make change stick.

 

Preparation

No formal preparation is required. However, delegates will get the most value from the programme if they have reflected on their personal experience of change, their experience of implementing change and, most importantly, if they are aware of the change challenges facing them and their teams over the coming months.

 

Trainer

Richard Andrews, Corporate Instinct Ltd.

 

Registration

Registration requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request the last screen of EventBrite will say “You’re going to ……” and you may receive an email “registration confirmation” for the course. This is not a confirmation of a place for you. It is a confirmation that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from CyMAL.

 

Please express your interest in this course through the EventBrite link below.

 

South - https://www.eventbrite.co.uk/e/managing-change-09-july-2014-rheoli-newid-09-gorffennaf-2014-registration-11802705209

North - https://www.eventbrite.co.uk/e/managing-change-15-july-2014-rheoli-newid-15-gorffennaf-2014-registration-11803004103

 

 

All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.

 

Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Lauren Baldwin immediately on [log in to unmask] or 0300 062 2251 so your place can be awarded to someone on the waitlist.

 

 

 

Seaneen McGrogan
Llywodraeth Cymru
Welsh Government

Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales

Welsh Government

Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR 
Ffon/Tel 0300 062 2261.
www.cymru.gov.uk/cymal
www.wales.gov.uk/cymal

 

 

 


On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.


On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.