Diolch am y wybodaeth,
Eleri.
Felly dylid defnyddio
Fairbourne yn unig – ydi hynny’n gywir?
Ar
http://homepage.ntlworld.com/geogdata/ngw/f.htm
ceir
Fairbourne
SH6113
Merioneth
Gwynedd N Wales N Wales Y
Ffriog
Claire
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri
James
Sent: 29 May 2014 09:42
To:
[log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Fairbourne / Y
Friog / Y Ffriog
Annwyl
Claire,
Dyma
gyngor a ddarparwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i Gyngor Gwynedd ynghylch yr enw
hwn yn ddiweddar iawn. Cysylltodd swyddog o’r Cyngor â Chomisiynydd y Gymraeg yn
sgil derbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd ynghylch arfer y Cyngor o ddefnyddio’r
enw Fairbourne yn unig.
Datblygwyd
y safle yn 1898-9 gan Sir Arthur McDougall, gan godi gorsaf drenau yno ar lein
Abermo/Aberdyfi, yn y gobaith o ddenu ymwelwyr. Mae'n ymddangos mai 'South
Barmouth' oedd ei gynnig cyntaf ar enwi'r orsaf ond cafwyd protest gan drigolion
Y Bermo. Ei ail gynnig oedd Fairbourne, bathiad i efelychu Bournemouth ac
Eastbourne.
Dyfynnir
isod o The
Light of Other Days, a brief History of Friog and Fairbourne
Alison
Harrison (?1966):
Just
before the opening of the station a group of local people approached Mr
McDougall with the request that the new station be called YNYSFAIG. Mr McDougall
was always very co-operative and said he would gladly have agreed had they come
earlier, but now, unfortunately, the name boards were already painted with the
name FAIRBOURNE, so the matter was allowed to drop.
Awgryma’r
dyfyniad uchod mai Ynysfaig (Ynys-faig) oedd enw Cymraeg trigolion yr ardal ar y
tir. Nid oes tystiolaeth gennym o blaid yr enw Morfa Henddol ac ni ymddengys ei
fod wedi goroesi fel enw llafar gwlad.
Mae
Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn nodi y ‘dylid cydnabod,
fel man cychwyn, y ffurfiau a argymhellir yn Elwyn Davies, Rhestr o Enwau
Lleoedd/A Gazetteer of Welsh Place-Names (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967)’.
Mae’r gyfrol honno (a sawl cyfrol safonol arall) yn nodi mai Y Friog yw enw
Cymraeg safonol Fairbourne. Yn 2008 cyflwynodd swyddogion Cyngor Gwynedd
dystiolaeth i Dîm Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod y Cyngor yn
ystyried Fairbourne a’r Friog yn llefydd ar wahân a bod Fairbourne yn cyfeirio’n
benodol iawn at y cyrchfan gwyliau rhwng yr arfordir a’r orsaf. Dywed yr Athro
Hywel Wyn Owen fod sawl person ategu hyn wrtho wedi iddo gyhoeddi Dictionary
of the Place-Names of Wales (2007).
Ni
ymddengys felly bod enw Cymraeg safonol a chydnabyddedig ar Fairbourne ac ni bu
un yn hanesyddol ychwaith gan mai bathiad uniaith gan Sir Arthur McDougall
ydoedd.
Dylid
pwysleisio hefyd nad oes enwau dwyieithog gan bob lle yng Nghymru. Mae gan rai
llefydd enwau Cymraeg yn unig (Aberystwyth) ac mae gan eraill enwau Saesneg yn
unig (Cross Hands). Mae gan lefydd eraill enwau Cymraeg a Saesneg o’r un
tarddiad (Caerdydd/Cardiff) ac eraill eto enwau Cymraeg a Saesneg o darddiadau
gwahanol (Abertawe/Swansea).
Mae
Canllawiau Safoni Comisiynydd y Gymraeg yn nodi y ‘dylid
ymwrthod â ffurfiau pedantig, adferiadau hynafiaethol, trosiadau neu
gyfieithiadau llythrennol a bathiadau mympwyol oni bai bod tystiolaeth i’r ffurf
ennill ei phlwyf yn lleol ac yn genedlaethol’.
Gobeithio bod yr
uchod o ddefnydd i chi. Sylwer mai Y Friog yw ffurf y Rhestr o Enwau
Lleoedd gyda llaw. Cofiwch bod modd i chi gysylltu’n uniongyrchol â
Chomisiynydd y Gymraeg pe bai gennych chi ymholiadau tebyg yn y dyfodol.
Yn gywir
iawn,
Eleri
Dr
Eleri James
Uwch
Swyddog Cyngor a Chyfathrebu / Senior Advice and Communications
Officer
+44
(0)29 2087 7576
––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––
Comisiynydd
y Gymraeg
Siambrau’r
Farchnad, 5–7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT
0845
6033 221
Croesewir
gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg
Dylai'r
datganiadau/sylwadau uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid o reidrwydd
yn ddatganiadau neu sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg, unrhyw ran ohono neu
unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef. Mae’r e-bost hwn wedi cael ei sganio gan
System Diogelwch e-bost Symantec Security.cloud. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch
â messagelabs.com/email.
––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––
Welsh
Language Commissioner
Market
Chambers, 5-7 St Mary St, Cardiff, CF10 1AT
0845
6033 221
Correspondence
welcomed in Welsh and English
The
statements/comments made above should be regarded as personal and not
necessarily those of the Welsh Language Commissioner, any constituent part or
connected body. This email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud
service. For more information please visit messagelabs.com/email.
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 29 Mai 2014
09:29
To: [log in to unmask]
Subject:
Fairbourne / Y Friog / Y Ffriog
Yn ôl Canllawiau Comisiynydd y
Gymraeg ar enwau lleoedd, dylid dilyn y Rhestr o Enwau Lleoedd (y “Gazetteer”). Nid oes unrhyw sôn ynddynt am wefan Enwau
Cymru.
Fodd bynnag, rydym newydd
chwilio am enw Fairbourne yn y Rhestr, ac mae’n rhoi “Y Ffriog”. “Y
Friog” mae gwefan Enwau Cymru’n ei roi, dyna a ddefnyddir gan Gyngor Gwynedd,
ynghyd â llwyth o gyrff eraill, ac “Ysgol y Friog” yw enw’r ysgol gynradd
yno.
Claire
Mae Pennawd Cyf yn
gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru
4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys
Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
Pennawd Cyf is a
limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and
the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff,
CF14 1DJ.
______________________________________________________________________
Mae’r
e-bost hwn wedi cael ei sganio gan Gwasanaeth Diogelwch.cwmwl e-bost
Symantec.
Am ragor o wybodaeth, ewch at http://www.symanteccloud.com
This
email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud service.
For more
information please visit http://www.symanteccloud.com
______________________________________________________________________
______________________________________________________________________
Mae’r
e-bost hwn wedi cael ei sganio gan Gwasanaeth Diogelwch.cwmwl e-bost
Symantec.
Am ragor o wybodaeth, ewch at http://www.symanteccloud.com
This
email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud service.
For more
information please visit http://www.symanteccloud.com
______________________________________________________________________
No virus found in this
message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2014.0.4570 / Virus
Database: 3950/7571 - Release Date: 05/27/14