Print

Print


"Y Friog" sydd yn fy nghopi o o'r Gazetteer (Trydydd Argraffiad, 1967).
Rwy'n cofio rhywun yn sôn nad yr un lle yw Fairbourne a'r Friog ac, yn wir, dyma a ddywed y Dictionary of the Place-names of Wales:
O dan y pennawd "Fairbourne, (Y) Friog" mae'n dweud:  "…Fairbourne is a resort between Y Friog, the coast at Ro Wen… and the railway station."  Mae'n dweud hefyd am "Fairbourne" - "The name appears to have been coined in 1898-9 as a name for the station designed to attract holiday-makers … espite the further protest that the site was known as Ynys-faig."

Difyr!

Siân

On 2014 Mai 29, at 9:28 AM, Claire Richards wrote:

Yn ôl Canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd, dylid dilyn y Rhestr o Enwau Lleoedd (y “Gazetteer”).  Nid oes unrhyw sôn ynddynt am wefan Enwau Cymru.
 
Fodd bynnag, rydym newydd chwilio am enw Fairbourne yn y Rhestr, ac mae’n rhoi “Y Ffriog”.  “Y Friog” mae gwefan Enwau Cymru’n ei roi, dyna a ddefnyddir gan Gyngor Gwynedd, ynghyd â llwyth o gyrff eraill, ac “Ysgol y Friog” yw enw’r ysgol gynradd yno.
 
Claire
 
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.