Yn enwedig gan fod ’na’r fath beth ag “egg boiler” – gallwch dalu hyd at ryw £40 am y fath declyn. Fyddai “peth amseru wy” yn gwneud y tro. “Amserydd wy” a geir ar wefan CBAC. Erbyn hyn, wrth gwrs, gallwch chi gael “ap amseru wy” i’w roi ar eich ffôn clyfar. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 20 May 2014 16:26 To: [log in to unmask] Subject: egg-timer “peth berwi wy” meddai GyA ond dwi ddim yn gweld hynny’n foddhaol iawn o gwbwl. Oes gan rywun derm maen nhw’n ei ddefnyddio am “egg-timer”? Diolch, Geraint