Diolch i esiampl Sylvia Prys Jones, 'rwyf wedi dechrau darllen hen, hen nofelau ditectif Cymraeg. Soniais wrth Bruce y bore 'ma am ymadrodd mewn un ohonynt (o ddechrau'r tridegau), fod rhywun "fel barn ar datws" ac 'roedd Bruce wrth ei fodd. Nid oedd erioed wedi gweld yr ymadrodd ar ddu a gwyn, dim ond ei glywed gan ei fam a oedd, 'roedd o'n amau'n gryf, wedi'i gael gan ei thad. Mae'n disgrifio rhywun sydd yn bla, ac yn bali niwsans, a chymerai mai "potato blight" fyddai "barn ar datws". O edrych yn y Cydymaith, cawsom fod awdur y nofel a thaid Bruce yn dod o'r un ardal. Tybed a oes 'na rai eraill sy'n gyfarwydd a'r ymadrodd? Gyda'r un ystyr? O ba ardal? Llawer o ddiolch, Ann