Annwyl gyfeillion
Tybed ydych chi'n gyfarwydd a'r term cydymaddysgu? Rwy'n cyfieithu
i'r Saesneg ac alla i ddim meddwl beth fyddai hyn yn Saesneg.
O'r hyn alla i ddeall mae hwn yn gysyniad yn y byd addysg, sy'n pwysleisio
bod dysgu yn rhywbeth greddfol a bod angen deall y prosesau hynny yn hytrach na
chyfeirio addysg at blant a disgwyl iddyn nhw ddysgu. Mae na son hefyd am 'y
broses ymaddysgol'.
Diolch am bob cymorth.
Osian