Première byd fyddai i'n ei ddefnyddio. Weithia byddaf yn deud perfformiwyd gyntaf/am y tro cyntaf, ond dydi hynny ddim bod amser yn ffitio'r frawddeg a gall fod yn glogyrnaidd, a does gen i ddim gwrthwynebiad i ddefnyddio geiria Ffrangeg (wedi'r cyfan mae agos i bob dim y soniwn amdano mewn cerddoriaeth glasurol yn Eidaleg a dydi hynny ddim yn codi gwrychyn neb. Byddaf hefyd yn defnyddio début - ond gocheled rhag Cysill - bu ond y dim i mi adael iddo newid pob début yn debot unwaith - e.e. gwnaeth Bryn Terfel ei debot yn La Scala.
Anna