Ia, ond dio'm yn gwrs, nacdi. Be am rywbeth fel cegaid rhwng cyrsiau? Ne be am ei alw'n sorbet os na dyna be ydi o? Bydd unrhyw 'ffdis' yn gwbod be di ei ddiben

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


2014-04-10 17:32 GMT+02:00 Gareth Jones <[log in to unmask]>:
Beth am 'ail gwrs'? Fyddai hynny'n gwneud y tro?
Sent from my BlackBerry® wireless device

From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Thu, 10 Apr 2014 17:28:08 +0200
To: <[log in to unmask]>
ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Intermediate

Diben sorbet rhwng pryda ydi ffresio'r geg, te, yn hytrach na chodi archwaeth. Ne ella y gellid dadla bod y ffresio hwnnw'n setlo a gan hynny'n codi archwaeth at yr un trwm nesa. Ddim lot o help, mi wn, ond ella gellid gwneud rhywbeth efo'r syniad a'r bwriad hwnnw...?

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


2014-04-10 17:08 GMT+02:00 Einir Hughes <[log in to unmask]>:
Dwi isho cynnig 'Tamaid i aros pryd', ond beryg fod hynny'n rhy faith fel pennawd ar fwydlen? 
Beth am 'I aros pryd', gyda 'I gychwyn' fel pennawd y cwrs cyntaf? 

Einir


Date: Thu, 10 Apr 2014 14:41:03 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Intermediate
To: [log in to unmask]

Bwydlen brecwast priodas ydy'r cyd-destun. Gweinir yr 'intermediate' (sef sorbed) rhwng y cyrsiau cyntaf a'r prif seigiau. Unrhyw awgrymiadau, os gwelwch yn dda?