Print

Print


Ia, ond dio'm yn gwrs, nacdi. Be am rywbeth fel cegaid rhwng cyrsiau? Ne be
am ei alw'n sorbet os na dyna be ydi o? Bydd unrhyw 'ffdis' yn gwbod be di
ei ddiben

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


2014-04-10 17:32 GMT+02:00 Gareth Jones <[log in to unmask]>:

> Beth am 'ail gwrs'? Fyddai hynny'n gwneud y tro?
> Sent from my BlackBerry® wireless device
> ------------------------------
> *From: * anna gruffydd <[log in to unmask]>
> *Sender: * Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]>
> *Date: *Thu, 10 Apr 2014 17:28:08 +0200
> *To: *<[log in to unmask]>
> *ReplyTo: * Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary <[log in to unmask]>
> *Subject: *Re: Intermediate
>
> Diben sorbet rhwng pryda ydi ffresio'r geg, te, yn hytrach na chodi
> archwaeth. Ne ella y gellid dadla bod y ffresio hwnnw'n setlo a gan hynny'n
> codi archwaeth at yr un trwm nesa. Ddim lot o help, mi wn, ond ella gellid
> gwneud rhywbeth efo'r syniad a'r bwriad hwnnw...?
>
> Anna
>
> Ye who opt for cut'n'paste
> Tread with care and not in haste!
>
>
> 2014-04-10 17:08 GMT+02:00 Einir Hughes <[log in to unmask]>:
>
>> Dwi isho cynnig 'Tamaid i aros pryd', ond beryg fod hynny'n rhy faith fel
>> pennawd ar fwydlen?
>> Beth am 'I aros pryd', gyda 'I gychwyn' fel pennawd y cwrs cyntaf?
>>
>> Einir
>>
>> ------------------------------
>> Date: Thu, 10 Apr 2014 14:41:03 +0100
>> From: [log in to unmask]
>> Subject: Intermediate
>> To: [log in to unmask]
>>
>> Bwydlen brecwast priodas ydy'r cyd-destun. Gweinir yr 'intermediate' (sef
>> sorbed) rhwng y cyrsiau cyntaf a'r prif seigiau. Unrhyw awgrymiadau, os
>> gwelwch yn dda?
>>
>
>