Print

Print


Na, dim ond dirywiad ieithyddol anffodus hensefydlog!

 

Gofynnais i i’m mab 9 oed neithiwr – ‘ti sydd arno’ maen nhw’n dweud, ond ro’n e’n meddwl efallai fod un ferch yn ei dosbarth yn gweud ‘ti sydd ar’. Ac wedi meddwl ychydig, dywedodd fod ei gyfnither yn bendant yn dweud ‘ti sydd ar’ – ac mae hi’n byw yng Nghaerdydd.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 29 Ebrill 2014 15:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: it / on it

 

Roedd plant Caerdydd yn dweud 'ti sy ar' nol yn y chwedegau, felly dyw hyn ddim yn ddirywiad ieithyddol anffodus diweddar.

Efallai nad yw'n gywir, ond dyna oedd yn cael ei ddefnyddio - ac mae wedi goroesi i bob golwg

 

Catrin

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Sent: 29 April 2014 14:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: it / on it

 

Rwyf wedi cywiro'r plant sawl gwaith ond does dim ots 'rwyt ti ar' rwy'n ei glywed fynychaf yng Nghaerdydd.


M

 

2014-04-29 14:11 GMT+01:00 Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]>:

“Arno” mae’r plant yn ei weud yma. Dw i ddim yn meddwl mod i erioed wedi clywed ‘rwyt ti ar’.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Sent: 29 Ebrill 2014 14:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: it / on it

 

Cwestiwn da, ac ar lafar (o leiaf yn ysgol Pencae yng Nghardydd) 'ar' neu 'arno' - 'rwyt ti ar' - mae'r plant yn gweiddi ar ei gilydd.

M

 

2014-04-29 12:29 GMT+01:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

Mewn gemau plant – y sawl sy’n cwrso / chwilio. 

 

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.