Mae’r gair “Festival” yn dod o’r “Festival of Britain” (1951). Codwyd y neuadd fel rhan o’r ŵyl honno. http://www.southbankcentre.co.uk/venues/royal-festival-hall

 

Felly pe bai rhywun yn ceisio creu enw Cymraeg, mae’n debyg mai’r peth agosaf fyddai ‘Neuadd Frenhinol yr Ŵyl’.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 10 April 2014 10:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: enwau neuaddau

 

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich barn i gyd ar y mater hwn: mae’n pery anhawster i fi bob tro. Felly, gaf fi ofyn beth fyddwch chi’n ei ddefnyddio yn Gymraeg am y Royal Festival Hall? Ai cael ei chodi i ddathlu gwyl frenhinol benodol wnaeth hi, ynte ai neuadd frenhinol ar gyfer gwyliau yw hi? Wn i ddim. Oes rhywun yn gwybod am fersiwn Gymraeg ‘dderbyniol’? Fe ellid gadael yr enw yn Saesneg, wrth gwrs, ond beth fyddech chi’n ei wneud mewn rhester o enwau neuaddau ym Mhrydain, e.e. Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd Wigmore, Neuadd y Frenhines Elizabeth?  A fyddech chi’n ‘creu’ eich fersiwn Gymraeg eich hun?

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb [auc]
Sent: 10 April 2014 08:31
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: enwau neuaddau

 

Na, dw i ddim yn awgrymu cyfieithu Concertebouw ond ni allaf weld pam na ddylem ddefnyddio ein hiaith ni ein hunain am y lleoliadau hyn sydd yn yr un wladwriaeth â ni! (wel, â’r rhan fwyaf ohonon ni) Y lleoliadau rydym efallai debycaf o ymweld â nhw. Ac ni allaf weld dim amarch yn hynny ychwaith – sut y gallai hi fod yn amharchus defnyddio’r Gymraeg mewn testun Cymraeg? (Nac ychwaith yn dangos diffyg ‘cwrteisi’, Tîm!) A dyw i ddim yn sôn am Ganolfan Glan y De, Neuadd Wig y Môr! – ond alla i weld dim o’i le â Chanolfan y Southbank, Neuadd Wigmore, Neuadd Frenhinol Albert. Ac ar y cyfan – gyda rhai eithriadau – dyna wnawn ni gyda lleoliadau gweddill y byd.

 

Nid osgoi’r Saesneg,  ond defnyddio’r Gymraeg!

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 09 Ebrill 2014 18:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: enwau neuaddau

 

Cytuno i raddau, mae'n well gen i ddefnyddio'r enwau gwreiddiol. Ond lle bo'r wyddor yn wahanol does dim dichon gwneud hynny. Ac os ydi'r enwa gwreiddiol yn cael eu defnyddio yn achos theatrau/neuaddau yng ngwahanol wledydd Ewrop, pam peidio a^ rhoi'r un parch i enwau'r mannau hynny yn Lloegr? Mae yma, dwi'n teimlo (dim byd personol, Matthew, mae'n duedd gennym i gyd dwi'n meddwl) ryw arlliw o osgoi defnyddio priod enwau neuaddau etc yn Lloegr am mai'r Saesneg ydi'r iaith sy'n ein bygwth, tra mae'n berffaith dderbyniol defnyddio priod enwau neuaddau yng ngwledydd eraill Ewrop. Does bosib ein bod yn mynd i dechrau cyfieithu Concertgebouw.

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2014-04-09 17:44 GMT+02:00 Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]>:

Ac er mwyn bod yn ‘hollol gyson’, wrth gwrs, fe fyddai rhywun wedyn yn mynd i ymchwilio i weld beth yw’r enwau Ffinneg, Rwsieg, Tsieinëeg, Siapaneg, etc. ar eu neuaddau cyngerdd nhw!! Peidiwch byth â defnyddio Canolfan Cerddoriaeth Helsinki, ond Helsingin musiikkitalo bob tro! Yr unig ffordd o fod yn hollol gyson yw eu cyfieithu nhw i’r Gymraeg, neu fel arall treulio oriau yn wilmentan am fersiynau brodorol yr enwau – ond wedyn, fel yn achos Iwerddon, pa fersiwn brodorol?

 

Does dim rheswm yn y byd pam na ddylid cyfieithu enwau’r neuaddau hyn – fel y bydden nhw’n ei wneud yn y Saesneg wrth gwrs. Y mae eithriadau, ond yn y Saesneg, ar y cyfan, mae enwau’r lleoliadau hyn  yn cael eu cyfieithu O wilo’n gyflym yn y cylchgrawn BBC Music sydd gennyf i – penodwyd Zemlinsky i swydd “in the New German Theatre in Prague” meddai’r erthygl ar y cyfansoddwr hwnnw. Mewn erthygl ar Vivaldi, mae sôn am “the Teatro St Angelo” a’r “The St Angelo theatre” yn yr un paragraff! Dysgwyd Richter “at the Moscow Conservatory” meddai’r nodiadau CD sydd gennyf i fan hyn.

 

Y peth pwysicaf oll yw fy mod i’n deall pob un o’r cyfieithiadau isod i’r Gymraeg yn hollol ddidrafferth. Braf iawn byddai cael cysonder yn yr enwau hyn, wrth reswm, ond mae’n sefyllfa hynod drist os ydym yn mynd i beidio â defnyddio’r Gymraeg ar yr enwau ar y sail efallai na fyddwn ni’n gallu sicrhau cysondeb llwyr. O’u cyfieithu, a’u defnyddio, fe fyddant yn dod yn fwy cywir ac yn fwy cyson, fel sy’n digwydd yn naturiol mewn unrhyw iaith iach.  

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Mary Jones
Sent: 09 Ebrill 2014 15:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau neuaddau

 

Dyna’r broblem ynte,  pryd i wneud a phryd i beidio. A yw hi’n syniad da, neu hyd yn oed yn ddoeth, i ddilyn yr hyn sy ar y we?  Ai Neuadd Frenhinol Albert sy ar y we, ynte Neuadd Albert? Ai’r Ty Opera Brenhinol, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Y Neuadd Wyl Frenhinol / Neuadd yr Wyl Frenhinol, gan fod y rheiny i gyd yn Llundain ac yn weddol gyfarwydd?  Gwnewch eich penderfyniad eich hun a byddwch yn hollol gyson wedyn, ddweda i!

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 09 April 2014 15:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau neuaddau

 

Weithiau, bydd enwau Cymraeg ar sefydliadau ayyb tramor yn dod yn gyfarwydd yn sgîl arfer maith.

 

Yn iach,

 

Tim

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 09 April 2014 14:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau neuaddau

 

Diolch yn fawr. Fyddwn innau ddim chwaith ond dechrau amau fy hun ar ôl gweld ambell enghraifft o ‘Neuadd Albert’ ar y we...

 

Diolch eto

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 09 April 2014 14:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: enwau neuaddau

 

Na fyddwn. Os gwnewch chi, be fyddwch chi’n ei ddweud am Gewandhaus neu Musikverein?

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 09 April 2014 14:18
To: [log in to unmask]
Subject: enwau neuaddau

 

Fyddech chi’n cyfieithu enwau fel Symphony Hall yn Birmingham, neu National Concert Hall yn Nulyn?

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Rhian

 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad