A minnau’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd y Coety a fagwyd ar ffin y Walia a’r Anglia – does gennyf i ddim tystiolaeth ddogfennol – fe edrychaf i yn ‘Crwydro Bro Morgannwg’ heno – ond fe fyddwn i’n rhoi ‘y Coety Walia’.

 

Darn yn unig o’r Coety Walia yw Allt-y-rhiw – mae llawer o dir comin agored hefyd. Byddai’n amheus gennyf a fyddai’r Coety Gymraeg [sic?] a’r Coety Saesneg yn addas, hyd yn oed yn y canol oesoedd – hyd y deallaf i, y tiroedd a gipiwyd gan y Normaniaid oedd y Coety Anglia a’r ucheldiroedd gwael a adawyd i’r Cymry oedd y Coety Walia – fe fyddai llawer o boblogaeth y Coety Anglia yn dal i fod yn uniaith Gymraeg, ond eu bod o dan reolaeth ein cyfeillion o’r dwyrain.

 

Ac rwy’n meddwl ei bod hi’n hollol dderbyniol Cymreigio sillafiad y Lladin ‘Wallia’ i ‘Walia’ - fel arall gallai’r darllenydd ddarllen ‘Wallia’ yn wallus.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 05 Mawrth 2014 12:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 'Coity Wallia Commons' ger Pen-y-bont ar Ogwr

 

Erbyn hyn (ar hyn o bryd?) rydym i fod i holi swyddfa’r Comisiynydd am enwau lleoedd, mae’n debyg.

 

http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/Pages/enwaulleoedd.aspx

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 05 March 2014 12:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 'Coity Wallia Commons' ger Pen-y-bont ar Ogwr

 

Diolch am yr ymchwil! Dw i wedi anfon ymholiad ar wefan Enwau Cymru ers dechrau’r wythnos ond heb gael dim yn ôl eto. Mi arhosa i ychydig bach mwy rhag ofn.

Rhian

 

From: [log in to unmask]">Dewi Williams

Sent: Wednesday, March 05, 2014 11:33 AM

Subject: Re: 'Coity Wallia Commons' ger Pen-y-bont ar Ogwr

 

Helo Rhian,

 

Efallai bydd angen mwy o wybodaeth lleol ar hyn ond gwelwch isod-

 

 

"Fe gafwyd llawer o'r enwau allan o ddwy SURVEY ym 1631 SURVEY OF THE MANOR OF COYTY WALLIA, a SURVEY OF THE MANOR OF COYTY ANGLIA Coety Gymraeg a Choety Saesneg"

 

National Library of Wales journal -  Cyf. 14, rh. 3 Haf 1966 'Enwau caeau plwyf Llangrallo, Sir Forgannwg,' W. MORGAN-RICHARDS

 

Hefyd mae erthygl yn y cylchgrawn Wales.-

 

It was divided into an Englishry and a Welshry, and in a manner that is unusual but not without precedent, the names have survived in the names of the two portions of the lordship. It was divided into the two manors with separate organizations, customs and courts of Coity Anglia and Coity Wallia—English Coity and Welsh Coity.

 

The common wood of Coity Wallia, known as Allt-y-rhiw, is 124 acres in extent, and covers the steep western slopes of Mynydd-y-Gaer, as that hill drops down to the Ogmore Valley. The peculiar feature of Coity Wallia is not the existence of the common right, but the existence of an area of woodland within which the right could be exercised. Common of estovers or wood-bote is a widespread right, but it merely means that the commoner can take wood from the common if he is lucky enough to find any. A real woodland subject to common rights is a different and a very rare thing.

 

  Wales  -  No. 24 Winter, 1946 'Coity Wallia and its Common Wood' 

 

 

Gan fod yr elfen Ladin "Wallia" weithiau yn cael ei chyfieithu a chan mai "Coety" yw'r ffurf Gymraeg am "Coity", tybed a fyddai -

 

Tir Comin Coety Gymraeg / Tiroedd Comin Coety Gymraeg

 

yn dderbyniol?

 

(ar yr un patrwm a Maelor Saesneg pan oedd arglwyddiaethau yn cael eu rhannu yn ôl iaith)

 

 

NEU

 

Os oes sicrwydd fod Allt-y-rhiw yn cynnwys tir comin "Coity Wallia" i gyd?

 

Tir Comin Allt-y-rhiw / Tiroedd Comin Allt-y-rhiw

 

 

Dewi

 


Date: Wed, 5 Mar 2014 08:59:55 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: 'Coity Wallia Commons' ger Pen-y-bont ar Ogwr
To: [log in to unmask]

Bore da. Mae enghreifftiau o ‘Tiroedd Comin Coity Wallia’ ar y we. Alla i gymryd bod hwn yn iawn?

Diolch

Rhian