Print

Print


Cytuno. A dydi'r ddwy iaith sy gynnon ni dan sylw ddim yn cerdded fraich ym mraich felly'n aml iawn mae yna sawl dewis gan ddibynnu ar y cyd-destun a'r amgylchiadau. Weithiau mae 'emerging director' yn 'gyw-gyfarwyddwr', dro arall mae'n gyfaryddwr sydd eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith ac yn dechra ennill ei blwy neu ddod i'r amlwg.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


2014-03-25 18:20 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>:

Mae’r ddadl rhwng cysondeb a sicrhau cyfieithiad da yn un sy’n codi’n aml yn ddiweddar – I ba raddau y dylen ni fod yn hyrwyddo defnyddio cyfieithiadau dim ond am eu bod nhw wedi cael eu defnyddio gan rywun yn rhywle? Mae’n amlwg bod rhaid i rywun gydymffurfio os bydd rhywbeth wedi cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth neu ar lefel swyddogol iawn neu fod rhywbeth yn deitl swyddogol (fel sy’n bosib yn y cyd-destun yma) ond mewn meysydd llai ffurfiol, oni ddylen ni fod yn ceisio gwella pethau yn hytrach na derbyn mai ‘dyna sy’n cael ei ddefnyddio’. Dim ond gofyn....

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GERAINT LOVGREEN
Sent: 25 Mawrth 2014 17:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Emerging

 

Ac fe ellid ei ddeall fel 'cyfarwyddwr sy'n datblygu gwaith' neu rywbeth felly.

Cyw-gyfarwyddwr yn un da i mi.

 


From: Carolyn <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 25 March 2014, 16:57
Subject: Re: Emerging



Dw i ddim yn gweld ‘sy’n datblygu’ yn gyfieithiad arbennig o dda oherwydd fe ellid dadlau bod pob cyfarwyddwr yn ‘datblygu’ hyd yn oed pan fydd yn brofiadol.

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 25 Mawrth 2014 16:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Emerging

 

Ai cyfeiriad at swydd benodol yn ‘National Theatre Wales’ ydi hon? Mae yna gyfeiriad at Gyfarwyddwr sy’n Datblygu ar eu gwefan nhw - http://nationaltheatrewales.org/cy/cyfarwyddwr-sy%E2%80%99n-datblygu

Rhian

 

From: [log in to unmask]" target="_blank">sian.roberts

Sent: Tuesday, March 25, 2014 4:49 PM

Subject: Re: Emerging

 

Dibynnu ar yr ystyr. "sy'n dod i'r amlwg" yn gallu gweithio.

Siân

 

 

Sent from Samsung Mobile




-------- Original message --------
From: Liam Taylor <[log in to unmask]>
Date: 25/03/2014 16:32 (GMT+00:00)
To: [log in to unmask]
Subject: Emerging

Dyma air sy’n achosi cryn dipyn o gur pen wrth gyfieithu ar gyfer rhywbeth tebyg i ‘National Theatre Wales’ emerging Director’ - oes gan rywun cynnig syml i’r Gymraeg?

               

Diolch,

 

Liam Ellis (Taylor)

Ysgrifennwr Copi Dwyieithog

Junior Bilingual Copywriter

 

Canolfan Mileniwm Cymru

Wales Millennium Centre

 

Ffôn \ Tel: 029 2063 4679

 

Dilynwch ni / Follow us on Twitter

 

Cysylltwch yn Gymraeg neu'n Saesneg fel dymunwch - Contact us in English or Welsh as you prefer

 

 

 

 





Pob cytundeb yn amodol ar gontract. Mae’n rhaid i unrhyw geisiadau caffael gael Archeb Swyddogol gyda Rhif Archeb Swyddogol er mwyn iddo fod yn ddilys.

Mae’r ohebiaeth hon at ddefnydd y derbynnydd/derbynyddion bwriadedig yn unig. Os nad chi yw’r derbynnydd/derbynyddion bwriadedig, nodwch fod dosbarthu, copïo neu ddefnyddio’r ohebiaeth hon neu’r wybodaeth ynddi mewn unrhyw ffordd wedi ei wahardd yn gyfangwbl a gall fod yn anghyfreithlon. Os ydych wedi derbyn yr ohebiaeth hon trwy gamgymeriad a fyddech cystal â’i ddychwelyd i’r anfonwr. Yn yr achos hwn byddem yn ddiolchgar pe gallech hefyd anfon yr ohebiaeth at [log in to unmask] ac yna dileu’r e-bost a dinistrio unrhyw gopïau ohono. Cwmni cyfyngedig dan warrant, cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cwmni 3221924. Rhif Elusen 1060458. Swyddfa gofrestredig: Plas Bute, Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 3AL


All agreements are subject to contract. A signed Official Order with an Official Order number must accompany any procurement request for it to be valid.

This communication is for the exclusive use of the intended recipient(s). If you are not the intended recipient(s) please note that any form of distribution, copying or use of this communication or the information in it is strictly prohibited and may be unlawful.If you have received this communication in error please return it to the sender. In this event would be grateful if you would also copy the communication to [log in to unmask] then delete the email and destroy any copies of it. A company limited by guarantee, registered in England and Wales. Company number 3221924. Charity number 1060458. Registered office: Bute Place, Cardiff Bay, Cardiff CF10 5AL