Cytuno. A dydi'r ddwy iaith sy gynnon ni dan sylw ddim yn cerdded fraich ym mraich felly'n aml iawn mae yna sawl dewis gan ddibynnu ar y cyd-destun a'r amgylchiadau. Weithiau mae 'emerging director' yn 'gyw-gyfarwyddwr', dro arall mae'n gyfaryddwr sydd eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith ac yn dechra ennill ei blwy neu ddod i'r amlwg. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2014-03-25 18:20 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>: > Mae'r ddadl rhwng cysondeb a sicrhau cyfieithiad da yn un sy'n codi'n aml > yn ddiweddar - I ba raddau y dylen ni fod yn hyrwyddo defnyddio > cyfieithiadau dim ond am eu bod nhw wedi cael eu defnyddio gan rywun yn > rhywle? Mae'n amlwg bod rhaid i rywun gydymffurfio os bydd rhywbeth wedi > cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth neu ar lefel swyddogol iawn neu fod > rhywbeth yn deitl swyddogol (fel sy'n bosib yn y cyd-destun yma) ond mewn > meysydd llai ffurfiol, oni ddylen ni fod yn ceisio gwella pethau yn hytrach > na derbyn mai 'dyna sy'n cael ei ddefnyddio'. Dim ond gofyn.... > > Carolyn > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *GERAINT > LOVGREEN > *Sent:* 25 Mawrth 2014 17:14 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Emerging > > > > Ac fe ellid ei ddeall fel 'cyfarwyddwr sy'n datblygu gwaith' neu rywbeth > felly. > > Cyw-gyfarwyddwr yn un da i mi. > > > ------------------------------ > > *From:* Carolyn <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Tuesday, 25 March 2014, 16:57 > *Subject:* Re: Emerging > > > > Dw i ddim yn gweld 'sy'n datblygu' yn gyfieithiad arbennig o dda oherwydd > fe ellid dadlau bod pob cyfarwyddwr yn 'datblygu' hyd yn oed pan fydd yn > brofiadol. > > Carolyn > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]>] > *On Behalf Of *Rhian Jones > *Sent:* 25 Mawrth 2014 16:54 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Emerging > > > > Ai cyfeiriad at swydd benodol yn 'National Theatre Wales' ydi hon? Mae yna > gyfeiriad at Gyfarwyddwr sy'n Datblygu ar eu gwefan nhw - > http://nationaltheatrewales.org/cy/cyfarwyddwr-sy%E2%80%99n-datblygu > > Rhian > > > > *From:* sian.roberts <[log in to unmask]> > > *Sent:* Tuesday, March 25, 2014 4:49 PM > > *To:* [log in to unmask] > > *Subject:* Re: Emerging > > > > Dibynnu ar yr ystyr. "sy'n dod i'r amlwg" yn gallu gweithio. > > Siân > > > > > > Sent from Samsung Mobile > > > > > -------- Original message -------- > From: Liam Taylor <[log in to unmask]> > Date: 25/03/2014 16:32 (GMT+00:00) > To: [log in to unmask] > Subject: Emerging > > Dyma air sy'n achosi cryn dipyn o gur pen wrth gyfieithu ar gyfer rhywbeth > tebyg i 'National Theatre Wales' *emerging* Director' - oes gan rywun > cynnig syml i'r Gymraeg? > > > > Diolch, > > > > *Liam Ellis (Taylor)* > > Ysgrifennwr Copi Dwyieithog > > Junior Bilingual Copywriter > > > > *Canolfan Mileniwm Cymru* > > *Wales Millennium Centre* > > > > Ffôn \ Tel: 029 2063 4679 > > *www.wmc.org.uk <http://www.wmc.org.uk/> * > > > > *Dilynwch ni / Follow us on Twitter* > > *twitter.com/yGanolfan <http://twitter.com/yGanolfan> * > *twitter.com/theCentre <http://twitter.com/theCentre> * > > > > Cysylltwch yn Gymraeg neu'n Saesneg fel dymunwch - Contact us in English > or Welsh as you prefer > > > > > > > > > > > > > > Pob cytundeb yn amodol ar gontract. Mae'n rhaid i unrhyw geisiadau caffael > gael Archeb Swyddogol gyda Rhif Archeb Swyddogol er mwyn iddo fod yn > ddilys. > > Mae'r ohebiaeth hon at ddefnydd y derbynnydd/derbynyddion bwriadedig yn > unig. Os nad chi yw'r derbynnydd/derbynyddion bwriadedig, nodwch fod > dosbarthu, copïo neu ddefnyddio'r ohebiaeth hon neu'r wybodaeth ynddi mewn > unrhyw ffordd wedi ei wahardd yn gyfangwbl a gall fod yn anghyfreithlon. Os > ydych wedi derbyn yr ohebiaeth hon trwy gamgymeriad a fyddech cystal â'i > ddychwelyd i'r anfonwr. Yn yr achos hwn byddem yn ddiolchgar pe gallech > hefyd anfon yr ohebiaeth at [log in to unmask] ac yna dileu'r > e-bost a dinistrio unrhyw gopïau ohono. Cwmni cyfyngedig dan warrant, > cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cwmni 3221924. Rhif Elusen 1060458. > Swyddfa gofrestredig: Plas Bute, Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 3AL > > > All agreements are subject to contract. A signed Official Order with an > Official Order number must accompany any procurement request for it to be > valid. > > This communication is for the exclusive use of the intended recipient(s). > If you are not the intended recipient(s) please note that any form of > distribution, copying or use of this communication or the information in it > is strictly prohibited and may be unlawful.If you have received this > communication in error please return it to the sender. In this event would > be grateful if you would also copy the communication to > [log in to unmask] then delete the email and destroy any copies of > it. A company limited by guarantee, registered in England and Wales. > Company number 3221924. Charity number 1060458. Registered office: Bute > Place, Cardiff Bay, Cardiff CF10 5AL > > >