Neu gallech chi ddilyn patrwm y Cynulliad i’r CAmpaign to End Poverty sef Ymgyrch Trechu Tlodi? From: GERAINT LOVGREEN Sent: Tuesday, March 25, 2014 11:06 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: Campaign to End Loneliness Dwi'n meddwl bod "Ymgyrch Atal Unigrwydd" (does dim angen yr 'i') yn llawer gwell nag "Ymgyrch i Ddod ag Unigrwydd i Ben"! Geraint -------------------------------------------------------------------------------- From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 25 March 2014, 10:59 Subject: Campaign to End Loneliness Campaign to End Loneliness - Hyd y gwela i, does gan yr ymgyrch hon ddim enw Cymraeg swyddogol. Oes rhywun yn gwybod am un. Os nad oes, beth ddylwn i ei wneud? Fe wela i ddwy enghraifft o "yr Ymgyrch i Ddod ag Unigrwydd i Ben" ar y we. Efallai bod cyfieithiadau gwahanol ond alla i ddim meddwl beth fydden nhw. Wedi Gwglo "Ymgyrch i Atal Unigrwydd" heb ganlyniadau. Gadael yn Saesneg neu fynd gyda "yr Ymgyrch i Ddod ag Unigrwydd i Ben"? Diolch Siân