Cyfradd Gyfatebol Flynyddol??

Dwi newydd fod yn ceisio deall y gwahaniaeth rhwng EAR ac AER, ac wedi drysu braidd! Ymddengys mai llog ar fenthyciad yw EAR a llog ar gynilion yw AER ... dwi'n meddwl!

Gwelir "Cyfradd Flynyddol Gyfatebol" yn cael ei ddefnyddio am AER, ac mae enghreifftiau o 'Cyfradd Gyfatebol Flynyddol' i'w gweld ar y we am EAR ar wefannau sefydliadau megis y Nationwide (er bod dryswch hyd yn oed yn yr wybodaeth sydd i'w chael yno hefyd, gyda CGF yn cael ei ddefnyddio ar gyfer AER hefyd!).

Ddim yn siwr ydi hyn o help!
Sioned




On 21 Mar 2014, at 12:18, Rhidian Evans wrote:

Darn byr ar gyfer banc lleol – “Equivalent Annual Rate”
 
Diolch,
 
Rhidian
 
 
 
Rhidian Evans
Prif Swyddog
Menter Iaith Sir Benfro,
Ty'r Ysgol, Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH. Ffôn: 01239 831129
Canolfan Ddysgu Gymunedol, Heol Dyfed, Abergwaun, SA65 9DT. Ffôn: 01348 873700
Symudol: 07805 151291