Oes gan rywun gynnig gwell nag optimeiddio? Cyfarwyddiadau syml i bobl am sut mae gwneud eu gwefannau’n haws i bobl ddod o hyd iddyn nhw sydd gen i ac maen nhw’n sôn am ‘on-page optimisation’. Mae’r gwaith yn cynnwys sgriptiau llafar a dw i’n teimlo bod ‘optimeiddio’ yn ofnadwy o jargonllyd mewn cyd-destun anffurfiol. Carolyn