Dw i’n tueddu i gytuno ag Ann – bod pobl yn meddwl eu bod nhw’n gwybod beth yw ystyr termau Saesneg am eu bod wedi’u clywed (sy’n beth peryg iawn!). Doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd ystyr ‘suspension’ er bod gen i ryw syniad. Does gen i ddim gwrthwynebiad mewn egwyddor i roi geiriau anghyfarwydd yn Saesneg mewn cromfachau ond sut mae rhywun yn penderfynu beth sy’n gyfarwydd a beth sydd ddim yn gyfarwydd/pryd mae rhywun yn bod yn nawddoglyd.?

Caroly

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 19 Mawrth 2014 11:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: suspension

 

Mae’n siŵr bod rhai pobl wedi astudio Cemeg trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae yna lawer sydd heb.  Hyd yn oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg swyddogol, mae arfer wedi bod (dal i fod o bosibl) mewn rhai ardaloedd o addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Saesneg yn gyfan gwbl neu gynnig dosbarthiadau cyfrwng Saesneg yn y gwyddorau.

 

Heb sôn am y bobl hynny aeth i’r ysgol cyn dyfodiad addysg gyfrwng Cymraeg, neu a aeth i ysgolion cyfrwng Saesneg er eu bod yn siarad Cymraeg, neu sydd wedi dysgu Cymraeg ers gadael yr ysgol.

 

Er mwyn y rheiny, dwi’n meddwl ei bod yn ddigon teg ystyried pa mor gyfarwydd yw termau gwyddonol ac ati a rhoi’r Saesneg mewn cromfachau y tro cyntaf y’u defnyddir.

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GERAINT LOVGREEN
Sent: 19 March 2014 11:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: suspension

 

Dwi wir yn methu deall pam dy fod yn gweld 'daliant' yn glogyrnaidd - mae'n air sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin iawn mewn gwersi Cemeg ledled y wlad erbyn hyn a dwi ddim yn gweld unrhyw gyfiawnhad dros roi 'in suspension' mewn cromfachau ar ei ol chwaith!!

Os ydyn ni am ddechrau rhoi cyfieithiad Saesneg mewn cromfachau ar ol bob gair Cymraeg sydd "bron byth yn cael defnydd" (honiad anhygoel o ystyried y twf mewn addysg Gymraeg) ddown ni byth i ben.

Mae'n fy ngwneud innau braidd yn flin, felly dwi'n cytuno efo Ann yn fama!

Geraint

 

 


From: Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
To:
[log in to unmask]
Sent: Wednesday, 19 March 2014, 11:29
Subject: Re: suspension


Dwi'm yn ei gymryd fel tae'n 'gas', peidiwch â phoeni...
Dwi'n chwilio am unrhyw a phob cyfle i BEIDIO â defnyddio'r Saesneg...ac
hefyd yn ceisio gwneud cyfieithiadau'n gwbl ddealladwy ac yn rhwydd i'w
darllen.
Anodd lle mae gair Cymraeg i'w gael, ond bron byth yn cael defnydd. Dwi
wedi rhoi'r Gymraeg y tro hwn... a'r Saesneg mewn cromfachau (brackets) :-)


On 19/03/2014 11:23,
[log in to unmask] wrote:
> Ym mha ffordd y mae "daliant" yn fwy clogyrnaidd na "syspensiwn"?  Ydych
> chi'n golygu "na fydd y Cymro cyffredin yn gyfarwydd ag o"? Os felly,
> byddai'n werth ichi roi "mewn daliant (in suspension)" wrth son am mater y
> tro cyntaf.
>
> Teimlaf fy mod i wedi gweld nifer o negeseuon yn y dyddiau diwethaf sydd
> fel petai'n chwilio am gyfiawnhad dros ddefnyddio gair Saesneg am fod y
> gair Cymraeg yn rhy "anodd".
>
> Dim yn bwriadu bod yn gas, ond mae'n wir.
>
> Ann
>
> Original email:
> -----------------
> From: Dafydd Timothy
[log in to unmask]
> Date: Wed, 19 Mar 2014 11:03:55 +0000
> To:
[log in to unmask]
> Subject: suspension
>
>
> Bore da...
> Y cyd-destun ydi meddyginiaethau...
>
> un ai ar ffurf 'hylif' neu *'suspension'*.
> 'Daliant' ydi'r unig air wela i sy'n agos at hwn ond braidd yn glogyrnog?
> 'Syspensiwn'? 'Cymysgedd' braidd yn benagored?
>
> Diolch,
> Dafydd
>
>
> --------------------------------------------------------------------
> myhosting.com - Premium Microsoft Windows and Linux web and application
> hosting -
http://link.myhosting.com/myhosting