Dyma'r trydedd tro imi geisio ateb y neges hon, a'r cysylltiad wedi methu bob tro, felly maddewuch imi os cewch sawl copi. Ni welaf unrhyw angen defnyddio cyfieithiad o'r Saesneg pan fo cymaint o fersiynau Cymraeg ar gael - i'w dathlu a'u poblogeiddio. O ran hynny, mae'n swnio fel cyfeiriad at sylw gan "fresher" prifysgol, yn debyg i "out of the mouths of babes and sucklings" (yn Saesneg 'rwy'n adnabod fy Meibl). Mae Bruce newydd gofio posibilrwydd arall: fel mellten i bren. Ann Original email: ----------------- From: Geraint Lovgreen [log in to unmask] Date: Tue, 18 Mar 2014 10:21:02 +0000 To: [log in to unmask] Subject: Re: out of the blue Dwi wedi clywed "allan o'r glas" hefyd, a'i weld mewn testun reit safonol hefyd, er fedra i ddim cofio lle! Dwi'm yn gweld bod dim yn bod arno - y ddelwedd sy'n bwysig ynde, sef bod rhywbeth yn digwydd yn sydyn fel taranfollt allan o'r awyr las. Geraint Sent from my iPhone On 18 Mawrth 2014, at 10:02 AM, Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> wrote: > Diolch i chi i gyd. Dwi'n tueddu i anghofio nad yw popeth yn y fersiwn arlein - dylwn fod wedi edrych yn y copi caled! > > Diolch > Sioned > > > On 17 Mar 2014, at 16:18, anna gruffydd wrote: > >> Fel huddyg i botes, fel barcud ar gyw. (O dan blue, nid out, ma isio chwilio!) >> >> Anna >> >> Ye who opt for cut'n'paste >> Tread with care and not in haste! >> >> >> 2014-03-17 17:14 GMT+01:00 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>: >>> Oes yna ddywediad Cymraeg naturiol am 'out of the blue'? Dwi'n rhyw deimlo y dylai yna fod, ond fedra i ddim meddwl am un. Wedi edrych yn GyA ond methu gweld un yno (er ei bod yn bosib mod i wedi ei fethu gan fod cymaint o ddywediadau yn cynnwys 'out'!) >>> >>> Diolch am unrhyw gynnig >>> Sioned > -------------------------------------------------------------------- myhosting.com - Premium Microsoft Windows and Linux web and application hosting - http://link.myhosting.com/myhosting