Annwyl Gyfeillion
Gobeithio na fyddwch yn meindio os wy'n camddefnyddio'r cylch trafod i roi gwybod ichi fy mod wedi sefydlu grwp newydd ar facebook i drafod gramadeg y Gymraeg - enw'r grwp yw ' Gramadeg y Gymraeg / Welsh Grammar'.
Bydd y grwp yn canolbwyntio ar yr iaith lenyddol ac yn trafod pwyntiau gramadegol ond mae croeso i drafod cyweiriau eraill a'r tafodieithoedd. Mae eisoes sawl trafodaeth ar y gweill ac mae sawl aelod o'r cylch trafod yn cymryd rhan.
Mae croeso i bawb gyfrannu at y grwp newydd a chodi pwyntiau a rhannu eu gwybodaeth o'r Gymraeg gydag eraill.
Diolch!
Muiris